Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi lansio canllaw gwybodaeth newydd mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a’i nod yw helpu unigolion i gynnal rheolaeth a pharhau i fod yn rhan o benderfyniadau sy’n cael eu gwneud am eu gofal.
Mae’r Canllaw Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw (ACP) yn darparu gwybodaeth am sut gallwch chi wneud cynlluniau ar gyfer eich dyfodol ac mae’n cynnwys amrywiaeth eang o wybodaeth am agweddau ar ACP, fel atwrneiaeth arhosol, rhoi organau, paratoi datganiad gofal ymlaen llaw ac ysgrifennu ewyllys olaf.
Wrth drafod y canllaw, dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE:
“Mae rhannu eich dymuniadau a’ch dewisiadau ar gyfer y dyfodol gyda’ch teulu, eich ffrindiau a gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol proffesiynol yn hanfodol er mwyn eich helpu chi a’r bobl agos atoch chi i ddeall beth sy’n bwysig ar gyfer eich dyfodol, hyd yn oed os bydd eich iechyd yn dirywio ac os na fydd gennych allu i wneud penderfyniadau.
“Mae Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw yn sicrhau bod eich dymuniadau a’ch dewisiadau yn cael eu parchu, a bod eich llais a’ch safbwyntiau’n parhau i gael eu clywed, hyd yn oed os nad ydych yn gallu siarad drosoch chi eich hun.”
Lansiwyd y Canllaw ACP mewn digwyddiad yn Nhŷ Cymunedol Casnewydd ddydd Mawrth 29 Hydref ac yn cadw cwmni i’r Comisiynydd yno roedd nifer o weithwyr gofal iechyd a chymdeithasol proffesiynol, i drafod pwysigrwydd Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw.
Roedd y siaradwyr yn y lansiad yn cynnwys Christine Fretwell a Dr Aoife Gleeson o Dîm Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a Stuart Nixon MBE, llysgennad ar ran y Gymdeithas MS a siaradodd am ei brofiadau ei hun yn llunio Cynllun Gofal Ymlaen Llaw.
Dywedodd Christine Fretwell, Hwylusydd Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw,
“Rydyn ni’n hynod falch o fod wedi gweithio mewn partneriaeth i greu’r llyfryn APC pwerus yma. Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’i ddatblygu ac i’r siaradwyr ysbrydoledig yn y lansiad.”
Mae mwy o wybodaeth am Gynllunio Gofal Ymlaen Llaw ar gael drwy fynd i www.advancecareplan.org.uk/cymru.
Gallwch lawrlwytho’r Canllaw Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw yma.