Angen Help?
Older man sitting in a chair talking on a phone

Helpwch i ddiogelu pobl hŷn rhag cam-drin ariannol, twyll a sgamiau

i mewn Newyddion

Mae’r Comisiynydd yn gweithio gyda phobl hŷn i ganfod y negeseuon a’r delweddau mwyaf effeithiol i godi ymwybyddiaeth o gam-drin ariannol, twyll a sgamiau er mwyn i ni allu gweithio gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys aelodau o Bartneriaeth Cymru yn Erbyn Sgamiau a heddluoedd ledled Cymru, i ddatblygu a dosbarthu gwybodaeth ac adnoddau newydd ac effeithiol. 

Ond mae hefyd yn hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu i ddiogelu pobl hŷn rhag cam-drin ariannol, twyll a sgamiau.

Gall amgylchiadau rhai pobl hŷn olygu eu bod mewn perygl penodol o gael eu cam-drin yn ariannol, a all olygu bod arian neu eiddo arall yn cael ei ddwyn, eu bod yn cael eu twyllo, yn cael eu rhoi dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall, neu fod arian neu eiddo arall yn cael ei gamddefnyddio.

Ar ben hynny, mae pobl hŷn yn aml yn darged i amrywiaeth eang o dwyll a sgamiau. Mae troseddwyr yn defnyddio dulliau mwyfwy soffistigedig i dwyllo pobl i brynu nwyddau neu wasanaethau nad ydynt yn bodoli, neu i rannu gwybodaeth bersonol, gan dargedu pobl drwy’r post, dros y ffôn, drwy negeseuon testun, e-bost ac ar-lein. Gall hyn gynnwys:

  • Galwadau ffôn, negeseuon testun a negeseuon e-bost sy’n dynwared banciau, adrannau’r llywodraeth neu sefydliadau a chwmnïau eraill sy’n gofyn am daliadau neu wybodaeth bersonol;
  • Sgamiau buddsoddi / cam-werthu cynhyrchion ariannol;
  • Sgamiau siopa ar-lein lle mae nwyddau’n cael eu harchebu ond byth yn cyrraedd;
  • Mathau arall o dwyll, e.e. rafflau ffug, elusennau ffug, sgamiau serch.

Gall effaith cam-drin ariannol, twyll a sgamiau ar bobl hŷn fod yn sylweddol: tu hwnt i’r effaith ariannol, mae dioddefwyr hŷn yn aml yn profi iselder, encilio cymdeithasol a theimlo’n ynysig oddi wrth eu teulu a’u ffrindiau, yn ogystal â dirywiad mewn iechyd corfforol a meddyliol.

Drwy fod yn gyfarwydd ag arwyddion cam-drin ariannol, twyll neu sgamiau, a lle gall pobl fynd am gymorth a chefnogaeth, gallwn i gyd chwarae rhan yn y gwaith o helpu i ddiogelu pobl hŷn.

Dyma rai arwyddion y gallai person hŷn fod yn dioddef, neu mewn perygl o ddioddef, cam-drin ariannol, twyll a sgamiau:

Gweithgaredd Ariannol Anarferol: Gall newidiadau sydyn mewn patrymau gwario, trosglwyddiadau neu dynnu arian o gyfrif banc heb esboniad, biliau heb eu talu neu greiriau gwerthfawr yn diflannu awgrymu bod twyll neu gam-drin ariannol yn digwydd.

Galwadau a negeseuon e-bost digymell: Gallai cynnydd mewn galwadau neu negeseuon e-bost awgrymu bod unigolyn yn cael ei dargedu gan droseddwyr neu sgamwyr.

Anfodlonrwydd i drafod materion ariannol neu i ofyn am help: Os yw person hŷn yn amharod i drafod ei sefyllfa ariannol neu’n gyndyn i ofyn am gymorth, gallai fod yn arwydd ei fod yn delio â sgam neu dwyll.

Rhoddion neu bryniannau heb esboniad: Gallai pryniannau neu roddion heb esboniad, sy’n ymddangos ar ôl anfon arian at unigolion neu sefydliadau anhysbys awgrymu bod unigolyn yn cael ei ecsbloetio’n ariannol.

Newidiadau o ran parodrwydd i gymryd risgiau: Mae sgamwyr yn aml yn manteisio ar barodrwydd unigolyn i gymryd risgiau. Felly, os byddwch yn sylwi ar newid sylweddol yn agwedd rhywun tuag at gymryd risgiau ariannol, efallai y byddai’n ddefnyddiol ymchwilio ymhellach.

Mae ffactorau risg eraill ar gyfer pobl hŷn yn cynnwys allgau digidol, colli galluedd, ynysu cymdeithasol, a mwy o ymddiriedaeth / diffyg amheuaeth.

Os ydych chi’n sylwi ar unrhyw un o’r arwyddion hyn neu’n meddwl y gallai person hŷn fod mewn perygl o gam-drin ariannol, twyll neu sgamiau, gallai cynnig cymorth mewn ffordd sensitif ac anfeirniadol wneud gwahaniaeth mawr.

Gallai hyn gynnwys annog rhywun i roi gwybod am ddigwyddiad, cefnogi rhywun i wella ei drefniadau diogelwch, neu helpu rhywun i ddod o hyd i wybodaeth am fathau o dwyll a sgamiau i gadw llygad amdanynt.

An older woman sitting at the coffee table with a mug speaking on a phone while looking at a laptop

Cyngor a Chymorth

Gall y sefydliadau canlynol ddarparu amrywiaeth o gyngor a chymorth os ydych chi’n poeni am berson hŷn:

Byw Heb Ofn

Llinell gymorth 24/7 sy’n cynnig cyngor a chymorth, yn ogystal â chefnogaeth drwy neges destun, sgwrs fyw ac e-bost.

0808 80 10 800 // https://www.llyw.cymru/byw-heb-ofn

 

Hourglass

Mae Hourglass yn darparu gwybodaeth a chymorth i bobl hŷn neu unrhyw un sy’n poeni am berson hŷn drwy ei linell gymorth 24/7, negeseuon testun, e-bost a gwasanaeth sgwrsio ar-lein.

0808 808 8141 // https://wearehourglass.org/hourglass-services

 

Get Safe Online

Yn darparu cyngor ymarferol ar sut i ddiogelu eich hun, eich cyfrifiaduron a’ch dyfeisiau symudol rhag twyll a sgamiau.

https://www.getsafeonline.org/wales/

 

Ddim yn siŵr ble i droi am gymorth? Cysylltwch â thîm Cyngor a Chymorth y Comisiynydd

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges