Angen Help?

Hawliau pobl hŷn yn y DU i driniaeth yn ystod y pandemig hwn

i mewn Newyddion

Mae’r cyfryngau yn dweud bod llywodraethau ar draws y byd yn datblygu canllawiau moesegol ac offerynnau penderfynu i helpu eu meddygon i flaenoriaethu cleifion i’w derbyn i’r ysbyty ac i gael eu trin (1). Mae hwn yn waith dyrys, wedi’i fwriadu i sicrhau bod y penderfyniadau anodd am bwy sy’n cael triniaeth ar yr adeg hon o argyfwng yn cael eu gwneud mor deg ac effeithlon â phosib gan eu meddygon, a hwythau– os bydd angen y canllawiau a’r offerynnau penderfynu hyn – yn gweithio mewn sefyllfaoedd hynod o heriol ac ingol.

Fel sefydliadau ac unigolion sy’n ymroi i gefnogi pobl hŷn a diogelu eu hawliau, rydym yn uno i ddweud ei bod yn hanfodol, os a phan fydd ein llywodraethau ni yn y Deyrnas Unedig yn gwneud gwaith tebyg, eu bod i gyd yn parhau i gynnal egwyddorion sylfaenol hawliau dynol.

Byddai unrhyw awgrym y gallai penderfyniadau ynglŷn â phwy i’w drin gael eu seilio ar ddim ond oedran neu roi gormod o bwysau i oedran person o’i gymharu â ffactorau eraill, megis ei gyflwr iechyd fel arfer a’i allu i elwa o driniaeth, yn gwbl annerbyniol. Rydym yn gwybod ers blynyddoedd lawer fod oed cronolegol yn brocsi gwael iawn am statws iechyd unigolyn a’i gryfder – rhywbeth y mae pawb ohonom yn ei weld ymysg y bobl hŷn yn ein bywydau. Byddai anwybyddu hyn a throi’n ôl at drefn sydd wedi’i seilio’n llwyr, neu’n bennaf, ar oedran o’i hanfod yn oedraniaethol, yn wahaniaethol ac yn anfoesol.

Rydyn ni’n credu’n gryf y dylai penderfyniadau trin gael eu gwneud bob amser ar sail yr achos unigol drwy drafodaeth onest rhwng meddygon, cleifion a’u teuluoedd, a bod hynny’n ystyried y risg, y manteision, a dymuniadau pobl. Nid oes unrhyw reswm nawr i roi heibio’r drefn dda hon sydd wedi hen ennill ei phlwyf; yn wir, mae’r argyfwng iechyd presennol yn ei gwneud hi’n fwy tyngedfennol nag erioed ein bod yn cadw’r drefn hon.

Hefyd, ni ddylai’r ffaith fod angen gofal a chymorth ar rywun, mewn cartref gofal neu yn ei gartref ei hun, gael ei defnyddio fel procsi am ei statws iechyd, ac ni ddylid arddel polisïau cyffredinol – er enghraifft, o ran pwy sy’n cael ei dderbyn i’r ysbyty. Byddai gwneud penderfyniadau o’r fath heb ystyried un ai anghenion person hŷn neu ei allu i elwa o driniaeth ysbyty yn wahniaethol ac annheg. 

Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Caroline Abrahams, Cyfarwyddwr Elusen Age UK
Deborah Alsina, Prif Weithredwr Independent Age
Victoria Lloyd, Prif Weithredwr Age Cymru
Eddie Lynch, Comisiynydd Pobl Hŷn Gogledd Iwerddon
Donald Macaskill, Prif Weithredwr Scottish Care
Linda Robinson, Prif Weithredwr Age Northern Ireland
Brian Sloan, Prif Weithredwr Age Scotland

DIWEDD



1: Gweler er enghrafft, https://www.dailymail.co.uk/news/article-8162357/US-coronavirus-New-York-hospitals-guidance-use-LOTTERIES-ventilators-shortage.html;

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges