Angen Help?

Gyda diffyg toiledau cyhoeddus, bydd llawer o bobl hŷn yng Nghymru yn teimlo eu bod wedi’u heithrio yn ystod penwythnos gŵyl y banc, meddai’r Comisiynydd

i mewn Newyddion

Gyda diffyg toiledau cyhoeddus, bydd llawer o bobl hŷn yng Nghymru yn teimlo eu bod wedi’u heithrio yn ystod penwythnos gŵyl y banc, meddai’r Comisiynydd

Y Comisiynydd wedi dweud y bydd prinder toiledau cyhoeddus yn gwneud i lawer o bobl hŷn yng Nghymru deimlo wedi’u heithrio dros ŵyl y banc, ac y bydd eraill yn peryglu eu hiechyd o bosib drwy beidio ag yfed digon er mwyn lleihau’r angen i ddefnyddio’r toiled.

I lawer ohonom, mae gŵyl banc mis Awst yn gyfle i fynd allan, mynd i ymweld neu gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda theulu a ffrindiau.

Ond gall gwneud pethau fel hyn fod yn anodd neu hyd yn oed yn amhosibl i lawer o bobl hŷn oherwydd diffyg toiledau cyhoeddus. Mae bron i ddwy ran o dair o bobl 60 oed a hŷn yng Nghymru yn ei chael yn anodd cael mynediad at doiledau cyhoeddus, yn ôl canfyddiadau arolwg a gynhaliwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.1

Mae ymchwil2 yn dangos bod pryderon ynghylch cael mynediad at doiledau cyhoeddus yn gallu rhwystro pobl rhag gadael eu cartrefi, yn enwedig y rheini sydd â chyflyrau sy’n achosi iddyn nhw ddefnyddio’r toiledau’n amlach, sy’n fwy tebygol o effeithio arnom wrth i ni fynd yn hŷn.

Yr hyn sy’n peri mwy fyth o bryder yw’r ffaith y gallai pobl hŷn hefyd fod yn peryglu eu hiechyd oherwydd diffyg toiledau cyhoeddus, gydag ymchwil yn awgrymu hefyd fod dros hanner y bobl yn yfed llai o ddŵr yn fwriadol i leihau’r angen i ddefnyddio’r toiled.3

Gall hyn greu amrywiaeth o broblemau iechyd, gan gynnwys llai o gydsymud, cynyddu’r risg o faglu neu syrthio, a llai o gof tymor byr a pherfformiad gwybyddol. Ar ben hynny, mae cyfyngu faint o hylif sy’n cael ei yfed yn gallu cynyddu (neu waethygu) y risg o gyflyrau megis cerrig yr arennau neu systitis.

Mae’r Comisiynydd yn dweud y gallai camau gweithredu gan awdurdodau lleol – fel gweithio gyda busnesau lleol i ehangu’r ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus a gwella’r wybodaeth am doiledau cyhoeddus yn yr ardal a sicrhau bod hyn ar gael i bobl hŷn mewn fformatau heb fod yn ddigidol – arwain at fanteision sylweddol heb gostio llawer.

 

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae pob un ohonom wedi profi’r teimlad anesmwyth o fod angen y toiled ond methu dod o hyd i un. Mae canfyddiadau fy arolwg yn tynnu sylw at faint o broblem y gall hyn fod i bobl hŷn yng Nghymru.

“Mae pobl hŷn yn dweud wrthyf yn rheolaidd y gall diffyg toiledau cyhoeddus yn eu hardal fod yn ddigon iddyn nhw beidio â mynd allan neu hyd yn oed eu hatal rhag mynd allan a gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Mae hyn yn gwneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu heithrio a gwneud iddyn nhw deimlo’n ‘gaeth’ yn eu cartrefi, rhywbeth sy’n cael ei adlewyrchu mewn ymchwil ehangach.

“Mae hyn yn golygu na fydd mynd allan i fwynhau gŵyl y banc gyda theulu a ffrindiau yn opsiwn i lawer o bobl hŷn.

“Yn bwysicach fyth, gall diffyg toiledau cyhoeddus gael effaith sylweddol ar iechyd pobl hŷn, gan effeithio ar amrywiaeth o gyflyrau meddygol ac, mewn llawer o achosion, gorfodi pobl i roi eu hiechyd mewn perygl drwy yfed llai o ddŵr yn fwriadol er mwyn osgoi’r angen i ddefnyddio’r toiled.

“Dyna pam ei bod yn hanfodol bod awdurdodau lleol yn edrych ar ffyrdd iddyn nhw gynyddu faint o doiledau cyhoeddus sydd ar gael yn eu hardaloedd, er enghraifft drwy weithio gyda busnesau lleol, yn ogystal â gwella gwybodaeth i bobl hŷn am doiledau cyhoeddus yn eu cymunedau, gan sicrhau bod hyn ar gael i bobl nad ydynt ar-lein.

“Mae angen i ni hefyd weld gweithredu strategol tymor hwy ar lefel genedlaethol i wella’r ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus, sydd wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf, gan gydnabod y rôl hanfodol y mae toiledau cyhoeddus yn ei chwarae o ran iechyd y cyhoedd, a chefnogi pob un ohonom i heneiddio’n dda.”

 

Mae Fforwm Uwch Swyddogion Cymru yn rhannu’r un pryderon â’r Comisiynydd. Lansiodd y Fforwm ei ymgyrch ‘P ar gyfer Pobl’4 yn ddiweddar, gan ofyn i bobl hŷn rannu eu profiadau o ddefnyddio toiledau cyhoeddus a’u barn am y newid sydd ei angen.

Dywedodd Gareth Parsons, Cadeirydd Fforwm Pobl Hŷn Cymru:

“Mae’r Fforwm wedi cynnal arolwg dros y misoedd diwethaf a fydd yn dirwyn i ben cyn bo hir, a byddwn yn rhannu’r farn a gasglwyd ym mis Medi. Mae anogaeth y Comisiynydd Pobl Hŷn wedi bod o gymorth yn ein hymdrechion.

“Senedd Pobl Hŷn Cymru oedd un o ragflaenwyr Fforwm Pobl Hŷn Cymru, ac fe wnaeth y Senedd gynnal yr ymarfer y tro cyntaf dros ddeng mlynedd yn ôl. Er bod y nod o gael Wales.gov i ymrwymo eu holl Awdurdodau Lleol i lunio eu strategaethau toiledau eu hunain wedi cael ei gyflawni, ychydig iawn o newid sydd wedi bod yn amlwg.

“Gan fod y rhan fwyaf o siopau adran a’u cyfleusterau wedi cau, mae llawer o bensiynwyr yn amharod i ymweld â chanol trefi erbyn hyn fel roedden nhw’n arfer ei wneud. Mae map Toiledau Cenedlaethol ar gael ond dim ond ar-lein, ac mae hyn yn ynysu’r rheini sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol, ac mae hyn dros hanner y pensiynwyr yng Nghymru.”

DIWEDD

 

Ar gyfer pob ymholiad gan y cyfryngau, cysylltwch â Richard Jones:
richard.jones@olderpeople.wales
// 07515 288271

I gael rhagor o wybodaeth am rôl a gwaith y Comisiynydd, ewch i: comisiynyddph.cymru

 

Nodiadau i Olygyddion

 1Cynhaliwyd cyfanswm o 503 o gyfweliadau gyda sampl gynrychioladol o boblogaeth Cymru sy’n 60 oed a hŷn. Cynhaliwyd pob cyfweliad dros y ffôn gan ddefnyddio technoleg CATI (Cyfweliad Ffôn â Chymorth Cyfrifiadur) rhwng 28 Chwefror a 17 Mawrth 2023.

Gofynnwyd i’r cyfranogwyr: “Yn eich cymdogaeth leol, pa mor hawdd neu anodd yw hi i chi gael mynediad at doiledau cyhoeddus?” Dywedodd cyfanswm o 23% ei fod yn ‘hawdd’, a dywedodd 61% ei fod yn ‘anodd’.

2 Taking the P***: The Decline of the Great British Public Toilet, Royal Society of Public Health, 2019: https://www.rsph.org.uk/static/uploaded/459f4802-ae43-40b8-b5a006f6ead373e6.pdf

3 Fel uchod

4Mae rhagor o wybodaeth am Ymgyrch P am Pobl Fforwm Pobl Hŷn Cymru ar gael yma: https://walesseniorsforum.co.uk/

Rhannwch eich profiadau o gael gafael ar doiledau cyhoeddus

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges