Angen Help?
A variety of sterling notes and coins

Gwnewch eich Addewid Credyd Pensiwn

i mewn Newyddion
A £10 note with four pound coins on a bed of £20 notes

Gwnewch eich Addewid Credyd Pensiwn

Gydag 1 o bob 5 o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi erbyn hyn, a’r argyfwng costau byw yn golygu bod miloedd yn fwy yn wynebu biliau amhosibl, mae’n bwysicach nag erioed bod pobl hŷn yn cael y Credyd Pensiwn y mae ganddynt hawl iddo, sy’n rhoi hwb o £65 yr wythnos i’w hincwm, ar gyfartaledd.

Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i godi ymwybyddiaeth o’r Credyd Pensiwn, ac yn annog ac yn cefnogi pobl hŷn sy’n gymwys i hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddyn nhw.

Mae hyn yn rhywbeth y gall pob un ohonom chwarae rhan ynddo, a dyna pam mae’r Comisiynydd am i chi ymuno â hi i wneud Addewid Credyd Pensiwn, i dynnu sylw at y camau y byddwch yn eu cymryd – boed fawr neu fach – i helpu i sicrhau nad yw pobl hŷn yn colli’r cyfle i gael Credyd Pensiwn wrth i ni wynebu gaeaf anodd arall.

Gallai eich Addewid gynnwys rhannu gwybodaeth am y Credyd Pensiwn a sut mae ei hawlio, neu gyfeirio pobl hŷn rydych chi’n gweithio gyda nhw at sefydliadau sy’n darparu cymorth a chefnogaeth.

Gallwch wneud eich Addewid drwy ddefnyddio’r ffurflen isod, neu gallwch lawrlwytho Cerdyn Addewid a rhannu llun ohonoch chi eich hun gyda’ch Addewid â ni.

Byddwn yn defnyddio ein cyfrifon Twitter a Facebook i rannu eich addewidion ac i dynnu sylw at y gwahanol gamau sy’n cael eu cymryd i gefnogi pobl hŷn, i ysbrydoli ac i annog hyd yn oed mwy o weithredu ledled Cymru.

Gallwch hefyd ymuno â’n gweminar ar 8 RhagfyrO’r Trysorlys i Dreorci: Cynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn yng Nghymru – pan fyddwn yn edrych ar y ffyrdd mwyaf effeithiol o annog a chefnogi pobl hŷn i hawlio’r Credyd Pensiwn y mae ganddynt hawl iddo. Gallwch archebu eich lle yma.

Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn estyn allan at bobl hŷn mewn cymunedau ledled Cymru a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i filoedd o fywydau drwy helpu i sicrhau nad yw pobl hŷn sy’n byw ar yr incwm isaf – llawer ohonynt ymhlith aelodau mwyaf agored i niwed cymdeithas – yn colli’r cymorth y mae ganddynt hawl iddo.

Diolch i chi ymlaen llaw am eich cymorth.

    Lawrlwythwch eich cerdyn addewid

    Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges