Ers i mi gychwyn fel Comisiynydd ym mis Awst, rydw i wedi ymweld â llawer o wasanaethau arbennig yn y gymuned drwy Gymru sy’n darparu cefnogaeth i bobl hŷn ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau.
I bobl hŷn, mae hyn yn golygu cyfle i gymdeithasu gyda ffrindiau a datblygu cyfeillgarwch a rhwydweithiau newydd, sy’n hanfodol i ymdrin ag unigrwydd ac arwahanrwydd. Mae’n golygu bod cyfleoedd ar gyfer pobl hŷn i ddysgu sgiliau newydd gwerthfawr, neu ddychwelyd at ddiddordebau a hobïau a gafodd eu gadael yn y gorffennol. Mae’n golygu bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu ac yn rhan o’u cymuned.
Mae gweld y mathau hyn o wasanaethau fy hun, ochr yn ochr â siarad gyda phobl hŷn sy’n eu defnyddio nhw a’r bobl sy’n eu rhedeg nhw, wedi gwneud i mi amau’r farn sydd gan rai, bod gwasanaethau yn y gymuned – fel canolfannau dydd a chlybiau cinio – yn hen ffasiwn ac yn methu â chyflawni gwasanaethau personoledig.
Y gwir yw bod y gwasanaethau gorau, hyd yn oed y rhai hynny sy’n seiliedig ar fodelau cyflawni mwy traddodiadol, yn cyfuno cefnogaeth feddylgar, unigol a phersonol i bobl hŷn, gyda’r buddion y gall cyswllt cymdeithasol, gweithgareddau a ffocws cymunedol ddod gyda nhw. Yn ogystal, mae’r gwasanaethau gorau yn datblygu yn gyson mewn ffyrdd bychain na fydd bob amser yn amlwg, wrth iddyn nhw wrando ac ymateb i leisiau a syniadau’r bobl hŷn y maen nhw’n eu helpu ac yn eu cefnogi.
Yn seiliedig ar yr hyn yr ydw wedi’i weld yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, bydd gwasanaethau yn y gymuned sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn parhau i fod yn rhan hanfodol o’r gymysgfa o wasanaethau a ddylid fod ar gael i gefnogi pobl hŷn, ac yn rhan allweddol o batrwm cymdeithas lle gall pobl heneiddio’n dda.