Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Gofyn Am Eiriolaeth

i mewn Newyddion

Mae Age Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE, yn annog pobl hŷn ledled Cymru i ‘Ofyn am eiriolaeth’, rhywbeth a allai eu helpu i leisio eu barn a sicrhau bod eu hawliau yn cael eu parchu.

Er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd eiriolaeth a’r ffyrdd y gall gefnogi pobl hŷn, mae wedi lansio fideo newydd i godi ymwybyddiaeth, ochr yn ochr â hyb eiriolaeth newydd ar-lein, sy’n cynnwys ystod o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol i bobl hŷn a’r rhai sy’n gweithio gyda nhw ac iddyn nhw.

Mae’r fideo yn adrodd stori Betty, sydd am ddychwelyd i’w chartref ar ôl cyfnod yn yr ysbyty, ond mae’n canfod nad oes neb yn gwrando ar ei dymuniadau ac nad oes modd iddi sicrhau bod ei llais yn cael ei glywed.

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae sicrhau bob gan bobl hŷn lais cryf er mwyn llywio a chyfrannu at benderfyniadau a gaiff eu gwneud am eu bywydau nhw mewn modd ystyrlon yn hanfodol.

“I rai pobl hŷn, yr unig ffordd o gyflawni hyn fydd gyda chymorth eiriolwr a all gynrychioli eu barn a siarad ar eu rhan.

“Fodd bynnag, un o ganfyddiadau allweddol yr adroddiad eiriolaeth a gyhoeddwyd gan fy swyddfa y llynedd oedd bod pobl hŷn a gweithwyr proffesiynol yn aml yn anymwybodol o wasanaethau eiriolaeth a’r gwahaniaeth cadarnhaol y gallan nhw ei wneud i fywydau pobl, yn enwedig y rhai a allai fod yn agored i niwed.

“Dyna pam rwyf wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ag Age Cymru i greu’r fideo a’r hyb adnoddau ar-lein – er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd eiriolaeth a’r ffyrdd y gall helpu a chefnogi pobl hŷn.”

Mae Age Cymru wedi dangos ymrwymiad mawr i ddatblygu a chynnal gwasanaethau eiriolaeth annibynnol ar gyfer pobl hŷn a dinasyddion yn gyffredinol dros y 12 mlynedd diwethaf; yn 2016 cafodd ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gweithredu Rhan 10 (eiriolaeth) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.  Drwy’r Rhaglen Eiriolaeth Edau Euraidd, mae’n cefnogi awdurdodau lleol wrth iddynt gomisiynu eiriolaeth, yn gweithio i wella gallu’r sector eiriolaeth ac yn codi ymwybyddiaeth o eiriolaeth yn fwy eang.

Dywedodd prif weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd: “Gall eiriolaeth fod yn hanfodol o ran helpu i gynnal urddas unigolyn a sicrhau bod ei hawliau dynol sylfaenol yn cael eu cynnal.

“Gall gefnogi oedolion sy’n agored i niwed mewn amrywiaeth eang o faterion fel trefnu a thalu am ofal, ymdrin â sefyllfa ariannol a threfnu rhywle addas i fyw. Gall hefyd gefnogi unigolion a allai fod wedi’u hesgeuluso neu sy’n dioddef rhyw fath o gam-drin.

“Er mwyn dangos pwysigrwydd eiriolaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno deddfwriaeth yn ddiweddar sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried a oes angen eiriolaeth broffesiynol annibynnol ar unigolyn sy’n gofyn am gymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol.

“Felly, mae’n bwysig bod yr unigolion sy’n chwilio am gymorth a’r asiantaethau sy’n darparu’r cymorth hwnnw yn cael yr wybodaeth gywir.  Gobeithio y bydd y fideo a’r hyb newydd yn gam mawr tuag at ddiwallu’r angen hwnnw.”

Mae’r fideo, a fydd yn cael ei rannu gyda phobl hŷn a gweithwyr proffesiynol drwy’r cyfryngau cymdeithasol, ar gael yma –

Bydd hefyd yn cael ei rannu ymhlith aelodau rhwydwaith Heneiddio’n Dda’r Comisiynydd a bydd yn cael ei ddangos mewn digwyddiadau a seminarau ar gyfer gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr sy’n gweithio gyda phobl hŷn ac iddyn nhw.

Gallwch ganfod y hyb adnoddau ar-lein yma: http://www.olderpeoplewales.com/wl/advocacy-hub.aspx.

Hefyd, mae pobl hŷn yn gallu cael gwybodaeth a chyngor am Eiriolaeth drwy gysylltu â Llinell Gyngor Age Cymru ar 08000 223 444 neu Dîm Gwaith Achos y Comisiynydd ar 03442 640 670.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges