Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i atal newidiadau sydd ar fin digwydd i Gredyd Pensiwn a Chymhwyster Budd-dal Tai oherwydd pryderon am yr effaith y byddant yn ei chael ar bobl hŷn.
Mae’r Comisiynydd yn pryderu y gallai cyplau ‘oedran cymysg’, lle mae un partner yn is nag oedran pensiwn y wladwriaeth, fod bron i £600 y mis yn waeth eu byd dan y system newydd arfaethedig, gyda chyplau’n gorfod hawlio Credyd Cynhwysol nes bod y ddau bartner yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae hi’n neilltuol o bryderus am yr effaith sylweddol y gallai’r newidiadau ei chael ar incwm menywod sydd eisoes wedi eu heffeithio gan gydraddoli cyflym Oedran Pensiwn y Wladwriaeth (menywod WASPI) a’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Ers i’r newidiadau hyn gael eu cynnig, mae nifer y bobl hŷn sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru wedi cynyddu i’r lefel uchaf ers 2005, ac amcangyfrifir bod 1 o bob 5 o bobl hŷn yn byw mewn tlodi erbyn hyn.
“Bydd y newidiadau arfaethedig yn cael effaith niweidiol ar lawer o bobl hŷn sydd eisoes yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd, a dyna pam rwy’n galw ar Lywodraeth San Steffan i wrthdroi ei phenderfyniad i weithredu newidiadau i gymhwyster ar gyfer Credyd Pensiwn a Budd-dal Tai.”
Yn ei llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, Amber Rudd AS, mae’r Comisiynydd wedi dweud, os caiff y newidiadau eu datblygu, bod yn rhaid rhoi trefniadau trosiannol ar waith i liniaru effaith y newidiadau, diogelu’r rhai fydd yn cael eu heffeithio a sicrhau eu bod cael digon o amser i addasu.
Ochr yn ochr â hyn, mae’r Comisiynydd hefyd wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i gyflwyno ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ynghylch Credyd Pensiwn, sy’n cael ei hawlio gan ddim ond 60% o’r rhai sy’n gymwys ar hyn o bryd.
Ychwanegodd y Comisiynydd:
“Mae’n hanfodol bod pobl hŷn sy’n ei chael hi’n anodd yn ariannol yn hawlio’r holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl i’w gael. Fodd bynnag, amcangyfrifir bod pobl hŷn yng Nghymru yn colli tua £170 miliwn bob blwyddyn mewn Credyd Pensiwn heb ei hawlio – arian a allai wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w sefyllfaoedd ariannol, yn ogystal â’u hiechyd a’u llesiant.
“Gan hynny, mae’n hanfodol bod mwy yn cael ei wneud i sicrhau bod pobl hŷn yn deall yr hyn y gallant fod â hawl i’w gael ac yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt i hawlio’r hawliau hyn.”