Gallai anawsterau wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus effeithio ar filoedd o bobl hŷn yng Nghymru yn ystod gŵyl y banc, meddai’r Comisiynydd
Efallai y bydd miloedd o bobl hŷn ledled Cymru yn ei chael hi’n anodd mynd allan a gwneud y pethau maen nhw eisiau eu gwneud dros benwythnos gŵyl y banc oherwydd anawsterau cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus. Dyma ganfyddiadau arolwg newydd a gynhaliwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Dywedodd traean o’r bobl hŷn a ymatebodd i arolwg y Comisiynydd eu bod yn ei chael hi’n anodd cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn eu hardal, ac mae canfyddiadau’r Comisiynydd hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod 1 person 70 oed a hŷn o bob 5, a bron i 1 person hŷn o bob 4 sy’n byw gyda phroblemau iechyd neu anableddau, bellach yn defnyddio eu tocyn bws yn llai aml o’i gymharu â dwy flynedd yn ôl.
Roedd y rhesymau a rannwyd gan bobl hŷn ynghylch pam eu bod yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn llai aml yn cynnwys llai o fysiau, gwasanaethau annibynadwy neu wasanaethau wedi’u gohirio, newidiadau i lwybrau teithio neu leoliad safleoedd bysiau ac anawsterau wrth ddod o hyd i wybodaeth am lwybrau neu amserlenni.
Dywedodd pobl hŷn sy’n defnyddio eu tocyn bws yn llai aml wrth y Comisiynydd fod ganddyn nhw lai o ryddid ac annibyniaeth, a’u bod yn ei chael yn anoddach cael gafael ar apwyntiadau a gwasanaethau. Roedden nhw hefyd wedi dweud eu bod wedi dod yn fwy dibynnol ar eraill, neu nad oedd ganddyn nhw ddewis ond defnyddio car neu dacsi yn hytrach nag opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus gwyrddach.
Mae’r Comisiynydd yn poeni y byddai unrhyw doriadau pellach i wasanaethau bysiau yn ei gwneud hi’n anoddach fyth i bobl hŷn ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gan adael pobl yn methu mynd allan a gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw, ac mewn mwy o berygl o deimlo’n unig ac yn ynysig.
Lle nad oes modd osgoi newidiadau i wasanaethau, dywed ei bod yn hanfodol bod lleisiau a phrofiadau pobl hŷn yn cael eu defnyddio i lywio penderfyniadau a llunio cynlluniau ar gyfer y dyfodol, ac y dylid cefnogi gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol i lenwi bylchau yn y ddarpariaeth.
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, y canlynol:
“Mae trafnidiaeth yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o’n cefnogi i fod yn annibynnol a gwneud y pethau sy’n bwysig i ni waeth beth yw ein hoedran, boed hynny drwy fwynhau ein hunain ar ŵyl banc neu wneud pethau eraill fel mynd i apwyntiadau iechyd, gofalu am anwyliaid, gwirfoddoli, cwrdd â theulu neu ffrindiau, neu siopa ar y stryd fawr.
“Ac wrth i ni fynd yn hŷn, efallai y byddwn yn dod i ddibynnu’n amlach ar drafnidiaeth gyhoeddus i wneud y pethau hyn.”
“Mae canfyddiadau fy arolwg yn awgrymu bod traean o bobl hŷn Cymru – bron i 300,000 o bobl – yn ei chael yn anodd cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn eu cymunedau, a bod defnyddio’r tocyn bws rhatach wedi gostwng dros y ddwy flynedd diwethaf, yn enwedig ymysg pobl dros 70 oed, a’r rheini sy’n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor neu anableddau.
“Heb fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, bydd nifer cynyddol o bobl hŷn yn cael eu hunain yn llai annibynnol, yn chwarae rhan llai gweithredol a llai o gysylltiad â’u cymunedau, ac mewn mwy o berygl o deimlo’n unig ac yn ynysig.
“Gellir mynd i’r afael â llawer o’r materion a amlygwyd gan bobl hŷn sy’n ei gwneud hi’n anoddach defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus – fel pellter safleoedd bysiau o gyfleusterau allweddol fel meddygfeydd – drwy sicrhau bod pobl hŷn yn rhan o’r broses gynllunio a gwneud penderfyniadau, er mwyn i’w lleisiau allu siapio gwasanaethau bysiau mewn ffordd ystyrlon, yn enwedig pan na ellir osgoi newidiadau i wasanaethau.
“Mae hefyd yn hanfodol, mewn ardaloedd lle mae diffyg darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus, bod gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol yn cael eu cefnogi, drwy gyllid tymor hirach, mwy cynaliadwy, i lenwi bylchau a helpu i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cyrraedd lle mae angen iddyn nhw fynd.”
DIWEDD