Angen Help?

Gall Diwrnod Hawliau Gofalwyr newid bywydau

i mewn Newyddion

Mae dros 370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru ac mae tua chwarter y bobl sy’n darparu gofal di-dâl yn ofalwyr hŷn (dros 65 oed). Efallai eu bod yn gofalu am bartner sydd wedi cael strôc, neu am fab neu ferch ag anabledd, neu am riant hŷn â dementia. Bydd rhai yn gofalu am fwy nag un person a bydd llawer ohonynt wedi bod yn gofalu am amser maith. 

Mae cyfrifoldebau enfawr ynghlwm â gofalu – gofalu am ansawdd bywyd rhywun, bod yn llais drostynt, cydlynu’r gofal a’r cymorth a gânt, helpu gyda thasgau gofal personol ymhlith pethau eraill.  

Eto, yn aml, dydy pobl ddim yn sylweddoli eu bod nhw’n ofalwyr, ac felly ni fyddant yn gofyn am help iddyn nhw eu hunain. Mae llawer o ofalwyr sydd ddim yn gwybod bod help ar gael iddyn nhw, neu am yr hawliau sydd ganddyn nhw a allai eu helpu i gael y cymorth sydd ei wir angen arnynt. 

Dyna pam mae Diwrnod Hawliau Gofalwyr mor bwysig i hyrwyddo hawliau gofalwyr.  Bydd grwpiau a sefydliadau yn estyn allan at ofalwyr ledled Cymru i roi gwybod iddyn nhw nad ydynt ar eu pen eu hunain a bod ganddyn nhw hawliau cyfreithiol i gael cymorth. Gall Diwrnod Hawliau Gofalwyr newid bywydau, ac rydw i wedi gweld y gwahaniaeth cadarnhaol pan fydd pobl yn cydnabod eu bod nhw’n ofalwyr a bod ganddyn nhw hawliau penodol. 

Mae diogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn yn rhan allweddol o fy ngwaith fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Rydw i’n falch o gefnogi Diwrnod Hawliau Gofalwyr, gan ymuno i ddathlu popeth y mae gofalwyr yn ei wneud a hyrwyddo’r hawliau sydd ganddynt.

Diwrnod Hawliau Gofalwyr llwyddiannus iawn i bawb sy’n gysylltiedig â’r achlysur.


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges