Angen Help?
A laptop, mobile phone, card machine, and picture of mobile apps overlayed with teal

Eithrio digidol yn creu rhwystrau newydd i bobl hŷn

i mewn Newyddion

Eithrio digidol yn creu rhwystrau newydd i bobl hŷn

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi codi pryderon bod pobl hŷn nad ydynt ar-lein, neu sy’n ei chael yn anodd defnyddio dyfeisiau fel ffonau clyfar, mewn perygl o gael eu hallgáu wrth i’r defnydd o dechnoleg ddigidol ar draws cymdeithas barhau i gynyddu’n sylweddol.

Mae’r Comisiynydd yn gwahodd pobl hŷn sydd wedi profi anhawster wrth gael mynediad at wybodaeth, gwasanaethau neu amwynderau eraill am eu bod wedi’u hallgáu’n ddigidol i gysylltu â hi i rannu eu profiadau, er mwyn iddi allu nodi anawsterau a rhwystrau penodol y mae pobl yn eu hwynebu, a’r meysydd lle mae angen gweithredu.

Mae cais y Comisiynydd am dystiolaeth gan bobl hŷn yn dilyn cyhoeddiad canllawiau ffurfiol yn 2021 sy’n nodi’r mathau o gamau gweithredu y dylai awdurdodau lleol a byrddau iechyd fod yn eu cymryd i sicrhau bod hawliau pobl i gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau drwy ddulliau nad ydynt yn ddigidol yn cael eu cynnal.

Er bod yr ymatebion a dderbyniwyd gan y cyrff hyn yn pwysleisio bod ystod o waith yn mynd rhagddo i gefnogi pobl hŷn sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol, mae ymgysylltiad a thrafodaethau gyda phobl hŷn yn awgrymu bod rhai bylchau o hyd a bod angen cymryd camau gweithredu pellach.

Mae nifer sylweddol o bobl hŷn yng Nghymru wedi’u hallgáu’n ddigidol, gyda data’n dangos nad yw tua thraean o bobl 75+ oed ar-lein. Yn yr un modd, mae ymchwil a gynhaliwyd gan y Comisiynydd yn dangos nad yw tua thraean o bobl 60+ oed yn defnyddio ffôn clyfar, ac ymhlith y rheini sy’n eu defnyddio, mae eu sgiliau’n amrywio’n fawr.

Er enghraifft, dywedodd 1 o bob 4 o bobl hŷn sy’n defnyddio ffôn clyfar na fyddent yn gallu defnyddio eu ffôn i dalu am barcio, a dywedodd 1 o bob 5 na fyddent yn gallu sganio cod QR neu ddefnyddio tocyn symudol ar gyfer digwyddiad.  Dywedodd mwy na 10% hefyd na allent ddefnyddio eu ffôn clyfar i wneud nifer o bethau o ddydd i ddydd, er enghraifft cael mynediad at wybodaeth bancio, defnyddio mapiau, neu ddilyn hynt parsel.

Mae ymchwil y Comisiynydd hefyd yn awgrymu y gallai’r defnydd cynyddol o ffonau symudol fod yn creu rhwystrau o ran pobl hŷn yn codi allan ac yn gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw: dywedodd 30% a mwy y byddent yn llai tebygol o ymgymryd â gweithgareddau neu ymweld â lleoedd lle byddai angen ffôn clyfar.

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE:

“Mae llawer ohonom, gan gynnwys nifer gynyddol o bobl hŷn, yn gwneud mwy o ddefnydd o dechnoleg ddigidol a gwasanaethau ar-lein fel rhan o’n bywydau bob dydd, a gall hyn fod yn fanteisiol mewn sawl ffordd.

“Ond i nifer sylweddol o bobl hŷn, nad ydynt ar-lein, gwyddom fod y symudiad tuag at ddigidol wedi creu problemau a rhwystrau newydd sy’n gallu atal pobl rhag cael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau, codi allan a gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw, rhywbeth sy’n cael ei adlewyrchu yn y sylwadau y mae pobl hŷn wedi bod yn eu dweud wrthyf mewn digwyddiadau ymgysylltu a thrwy ganfyddiadau fy arolwg ymchwil diweddar.

“Mae rhai pobl hŷn wedi rhannu gyda fi, er enghraifft, nad ydynt yn gallu trefnu apwyntiadau iechyd ar-lein, ac mae eraill wedi sôn am yr anawsterau maen nhw wedi’u hwynebu pan fydd angen iddyn nhw ddefnyddio apiau i dalu am wasanaethau, er enghraifft parcio’r car.

“Er mwyn cael dealltwriaeth well o’r materion penodol y mae pobl yn eu hwynebu, ac effaith y rhain ar fywydau pobl, rwy’n awyddus i bobl hŷn nad ydynt ar-lein ac sy’n ei chael yn anodd defnyddio technoleg ddigidol, gysylltu â’m swyddfa i roi gwybod am unrhyw anawsterau a rhwystrau maen nhw wedi’u hwynebu.

“Bydd clywed y lleisiau a’r profiadau hyn yn fy ngalluogi i nodi meysydd lle gallai fod angen camau gweithredu pellach i sicrhau y gall pobl hŷn sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol gael mynediad at y wybodaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, a chefnogi fy ngwaith i ddylanwadu ar arferion cyrff cyhoeddus allweddol, gan gynnwys awdurdodau lleol a byrddau iechyd.

Gall pobl hŷn (neu eu teulu a’u ffrindiau) gysylltu â swyddfa’r Comisiynydd i rannu eu profiadau hyd at 1 Medi dros y ffôn, yn ysgrifenedig neu drwy wefan y Comisiynydd.

DIWEDD

Rhannwch eich profiadau o Eithrio Digidol

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges