Roedd yn Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn ar ddydd Llun (1 Hydref), sef diwrnod lle mae pobl hŷn a’u cyfraniad i gymdeithas yn cael eu dathlu ym mhedwar ban byd.
Wrth i ni ddynesu at 70 mlynedd ers sefydlu’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, hawliau dynol oedd canolbwynt y dathliadau eleni, gyda phwyslais benodol ar y bobl sy’n hybu hawliau pobl hŷn ym mhob cwr o’r byd ac yn sicrhau bod y mater pwysig hwn yn codi i frig yr agenda wleidyddol a pholisi.
Mae’r gwaith hwn yn hanfodol oherwydd mae pwysigrwydd amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl yn fater sy’n aml yn cael ei anwybyddu.
Diolch i’r drefn, mae hyn yn dechrau newid, wrth i reoliadau a deddfwriaeth Cymru ddechrau canolbwyntio mwy ar hawliau, ac wrth i nifer cynyddol o gyrff cyhoeddus yng Nghymru fabwysiadu dull seiliedig ar hawliau yng nghyswllt eu gwaith.
Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad clir i ‘wireddu hawliau’ pobl hŷn, mewn ymateb i’r galwadau a wnaed gan fy swyddfa, ac fe wnaethant gadarnhau’r rhain mewn datganiad ar 1 Hydref. Byddaf yn monitro’r camau gweithredu maen nhw’n eu cymryd yn ofalus er mwyn sicrhau bod yr hyn maen nhw’n ei ddarparu yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon ac yn adlewyrchu’r negeseuon cadarnhaol maen nhw wedi’u rhannu am hawliau pobl hŷn a’u hymrwymiad i hynny.
Er bod y cynnydd a nodir uchod yn gam ymlaen i’w groesawu, mae angen gwneud rhagor o waith er mwyn sicrhau bod pobl hŷn yn deall eu hawliau ac, yn sgil hynny, yn deall sut mae defnyddio eu hawliau yn eu bywydau bob dydd. Mewn arolwg barn diweddar a gynhaliwyd ar fy rhan, daethpwyd i’r casgliad nad yw dros draean o’r bobl hŷn yng Nghymru – dros 250,000 o bobl – yn deall eu hawliau. Ar ben hynny, mae llawer o’r bobl hŷn sy’n cysylltu â fy Swyddfa yn bryderus bod eu hawliau wedi cael eu torri, ac mae fy nhîm gwaith achos yn aml yn darparu cymorth a chefnogaeth mewn sefyllfaoedd o’r fath.
Mae grym mewn gwybodaeth, ac os nad yw unigolion yn deall yr hawliau sydd ganddynt, byddant yn ei chael yn anodd eu defnyddio yn eu bywydau o ddydd i ddydd a chymryd camau gweithredu, os bydd angen, i sicrhau bod eu hawliau’n cael eu cynnal.
Dyna pam y cyhoeddais ganllaw newydd i bobl hŷn ar 1 Hydref, er mwyn sicrhau eu bod yn deall eu hawliau a’r ddeddfwriaeth sy’n sail iddynt yn well, ac i sicrhau eu bod yn y sefyllfa gryfaf bosibl i herio gwahaniaethu, gwasanaethau gwael neu ymarfer gwael. Mae’r canllaw eisoes yn boblogaidd ac mae copïau yn cael eu rhannu mewn digwyddiadau rydw i a fy nhîm yn mynd iddynt ledled Cymru, yn ogystal â drwy randdeiliaid sy’n gweithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan.
Ni ddylid meddwl bod hawliau pobl hŷn yn rhywbeth ansylweddol, amherthnasol ac anghyraeddadwy, ond yn hytrach eu bod yn ffordd o sicrhau cydraddoldeb, gwella safonau a mynd i’r afael â gwahaniaethu.
Mae Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn yn bwysig er mwyn ein hafgoffa pam mae hawliau mor bwysig i bobl hŷn, ac fel Comisiynydd, byddaf yn dal ati i weithio bob dydd er mwyn sicrhau bod camau’n cael eu cymryd i wireddu hawliau’r holl bobl hŷn yng Nghymru.
Cliciwch yma i lawrlwytho Gwybod Eich Hawliau: Canllaw Syml