Angen Help?
Five older people including three from the Black, Asian and Minority Ethnic communities hold hands

Dysgu o brofiadau uniongyrchol pobl hŷn o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru

i mewn Newyddion

Mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith anghymesur ar bobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, gan gynnwys pobl hŷn, ac mae’r anghydraddoldebau a oedd yn bodoli eisoes wedi gwaethygu.

Ar y cyfan, nid oes cofnod o brofiadau uniongyrchol pobl hŷn o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a heb y dystiolaeth hon mae pobl hŷn o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a’r materion sy’n effeithio ar eu bywydau yn anweledig.

Mewn ymateb i hyn, mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru eisiau clywed gan bobl hŷn o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n byw yng Nghymru am y materion a’r heriau y maen nhw’n eu hwynebu, yn ogystal â phrofiadau cadarnhaol pobl o heneiddio.

Bydd y gwaith ymchwil hwn yn darparu sylfaen dystiolaeth gref i alluogi’r Comisiynydd i ddeall yn well pa faterion y mae angen rhoi sylw iddynt a phenderfynu pa gamau sydd eu hangen i wella bywydau pobl hŷn o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Casglu profiadau uniongyrchol

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn comisiynu cymorth er mwyn i bobl hŷn o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol allu adrodd eu straeon am eu profiadau uniongyrchol.

Hoffai’r Comisiynydd weithio gydag unigolion/sefydliadau sefydledig sydd â chysylltiadau cymunedol cryf â phobl hŷn o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol er mwyn hwyluso’r ymgysylltu a chasglu’r dystiolaeth.

Felly, unigolion/sefydliadau fyddai’n gyfrifol am ddod o hyd i gyfranogwyr sy’n awyddus i rannu eu profiadau, ymgysylltu â nhw i gasglu eu profiadau personol mewn ffordd sy’n addas i’r person hŷn, a chyflwyno’r wybodaeth a gasglwyd o fewn yr amserlen a ddymunir.

Nid oes rhaid i’r ymgysylltu hwn ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar brofiadau pobl o bandemig Covid-19; mater i’r cyfranogwyr yw penderfynu beth hoffent ei rannu fel rhan o’u profiad uniongyrchol.

Fodd bynnag, hoffai’r Comisiynydd yn benodol gasglu gwybodaeth sy’n ymwneud â’i phedair blaenoriaeth strategol:

  • Diogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn
  • Rhoi diwedd ar wahaniaethu a rhagfarn ar sail oed
  • Atal cam-drin pobl hŷn
  • Galluogi pawb i heneiddio’n dda

Bydd y rhai sy’n ymgymryd â’r ymgysylltu felly’n cael cyfres o gwestiynau cyfweliad i ddarparu fframwaith ar gyfer strwythuro cyfweliadau. Bydd hyn hefyd yn helpu i nodi themâu cyffredin o’r profiadau uniongyrchol a gasglwyd.

Sut i ymgeisio

Mae’r Comisiynydd yn gwahodd unigolion/sefydliadau sy’n awyddus i fod yn rhan o’r broses o gasglu profiadau uniongyrchol pobl hŷn o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i lenwi Ffurflen Mynegi Diddordeb, sy’n amlinellu eu cynllun ar gyfer casglu’r profiadau uniongyrchol, gan gynnwys costau manwl.

Mae cyllideb o £25,000 wedi’i neilltuo ar gyfer y gwaith hwn ac felly rydym yn gofyn i bob cais beidio â bod yn fwy na £3000 i ddechrau.

Rhaid cyflwyno Ffurflenni Mynegi Diddordeb wedi’u llenwi erbyn 1 Gorffennaf 2022.

Amserlenni

1 Gorffennaf 2022: Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau mynegi diddordeb

11 – 15 Gorffennaf: Cyfweliadau â’r ymgeiswyr ar y rhestr fer

Gorffennaf i Medi: Casglu profiadau uniongyrchol a chyflwyno tystiolaeth

Lawrlwytho Ffurflen Mynegi Diddordeb Lawrlwythwch y Llythyr Ymgysylltu

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges