Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn cynnal prosiect ymchwil helaeth sy’n ceisio gwella mynediad pobl hŷn at gyfiawnder yng Nghymru.
Gan weithio gyda thîm ymchwil o Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, Oedran a Rhyw Prifysgol Aberystwyth, mae’r Comisiynydd yn archwilio sut mae prosesau gwneud penderfyniadau’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn effeithio ar ymchwiliadau sy’n ymwneud â diogelu a mynediad pobl hŷn at gyfiawnder.
Mae’r pedwar heddlu yng Nghymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi croesawu’r ymchwil ac maent yn helpu’r Comisiynydd drwy ddarparu mynediad heb ei debyg at ffeiliau achos, cofnodion a dogfennau eraill.
Bydd y tîm ymchwil yn adolygu data, prosesau gwneud penderfyniadau a deilliannau sy’n ymwneud â 400 o honiadau o gam-drin, esgeulustod neu driniaeth wael mewn ysbytai neu gartrefi gofal, er mwyn nodi ffyrdd o wella hyfforddiant ac ymchwiliadau diogelu, yn ogystal â mynediad pobl hŷn at gyfiawnder.
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: “Mae data yn dangos bod cyfraddau euogfarnau ac erlyn yng nghyswllt troseddu yn erbyn pobl hŷn yn anghymesur o isel o gymharu â’r boblogaeth gyfan, yn enwedig mewn achosion sy’n ymwneud â diogelu, camdriniaeth ac esgeulustod mewn cartrefi gofal ac ysbytai.
“Mae’n hollbwysig bod pobl hŷn sydd wedi dioddef troseddau yn cael cefnogaeth lawn eu system cyfiawnder troseddol, ac mae’r ymchwil hwn yn rhoi cyfle pwysig i nodi sut byddai modd gwella ymchwiliadau diogelu a mynediad at gyfiawnder ledled Cymru.
Dywedodd Sarah Wydall, o adran Cyfraith a Throseddeg y Brifysgol, sy’n arwain yr ymchwil gyda’r Athro John Williams a’r Cymrawd Ymchwil, Ann Sherlock: “Mae angen i ni nodi’r heriau a’r rhwystrau a allai gael effaith ar y lefel isel o achosion sy’n cael eu hadrodd ac yn arwain at erlyn.
“Mae hyn yn rhywbeth mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi mynegi pryder yn ei gylch yn y gorffennol, ac rydym yn falch y bydd ei chyllid ar gyfer y prosiect hwn yn ein galluogi ni i fynd i’r afael â’r bwlch presennol mewn gwybodaeth.
“Rydym yn gobeithio y bydd canfyddiadau ein hymchwil yn helpu i nodi ffyrdd o wella ymchwiliadau troseddol a diogelu oedolion.”
Dywedodd Matt Jukes, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru: “Ni ddylai unrhyw un ofni achosion o gam-drin pobl hŷn wrth dyfu’n hŷn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ffocws heddlua wedi symud tuag at roi sylw i hyn a meysydd eraill yng nghyswllt bod yn agored i niwed. Mae timau diogelu amlasiantaeth newydd yn golygu ein bod yn gweld mwy o achosion nag erioed lle mae angen i amryw o sefydliadau weithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu cadw’n ddiogel a bod ymchwiliadau ac erlyniadau posib yn effeithiol.
“Rydyn ni’n croesawu’r cyfle i edrych yn fwy manwl ar sut caiff penderfyniadau eu gwneud mewn sefyllfaoedd cymhleth.”
Bydd yr ymchwil yn cael ei gynnal yn ystod y 15 mis nesaf a bydd adroddiad sy’n nodi canfyddiadau’r Comisiynydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2020.
DIWEDD