Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi cyhoeddi canllaw newydd i’r gyfraith fydd yn helpu gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar draws maes iechyd, gofal cymdeithasol a diogelu i amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn.
Mae ‘Amddiffyn pobl hŷn yng Nghymru: Canllaw i’r gyfraith’, a gyhoeddwyd heddiw, yn cynnwys ystod eang o wybodaeth ddefnyddiol am ddeddfwriaeth allweddol sy’n ymwneud â phobl hŷn, yn cynnwys y Ddeddf Hawliau Dynol, a’r ffyrdd y gellir ei defnyddio i amddiffyn a diogelu pobl hŷn a sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad i’r gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Mae’r ganllaw hon hefyd yn cynnwys astudiaethau achos, sy’n seiliedig ar waith achos y Comisiynydd, er mwyn cynnig enghreifftiau ymarferol o fywyd go-iawn o’r ffyrdd y gellir cymhwyso a defnyddio’r gyfraith.
Hwn yw trydydd rhifyn y ganllaw, sydd wedi’i ddiweddaru gan John Williams, Athro Emeritws y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae’n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth allweddol, ac yn adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, megis cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Mae rhifynnau blaenorol o’r ganllaw wedi bod ymysg cyhoeddiadau mwyaf poblogaidd y Comisiynydd ac wedi’u defnyddio’n eang i gefnogi gwaith ymarferwyr gofal cymdeithasol, staff gofal cymdeithasol, staff meddygol, perchnogion cartrefi gofal, cyfreithwyr a myfyrwyr, yn ogystal â gan bobl hŷn a’u teuluoedd sydd eisiau dealltwriaeth gliriach o’r cyfreithiau a luniwyd yn benodol i’w hamddiffyn a’u cefnogi.
Meddai Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae Diwrnod Hawliau Dynol yn ddigwyddiad pwysig, sy’n ein hatgoffa, waeth beth fo’n hoed, fod gan bob un ohonom hawliau, wedi’u seilio ar ddeddfwriaeth, i’n hamddiffyn a’r rhyddid a gymerwn yn aml yn ganiataol.
“Ond trwy fy ngwaith a fy ymchwil rwyf wedi canfod nad yw tua thraean o bobl hŷn – dros chwarter miliwn o bobl – yn deall eu hawliau, a bod nifer o ymarferwyr sy’n gweithio gyda phobl hŷn yn ansicr o’r ffyrdd y gallant ddefnyddio’r gyfraith i amddiffyn a chefnogi pobl hŷn.
“Dyna pam rwy’n cyhoeddi’r fersiwn ddiweddaraf o fy nghanllaw i’r gyfraith, sy’n ceisio helpu ymarferwyr i fod yn fwy ymwybodol o’r gyfraith sydd ar gael i’w cefnogi yn eu gwaith o ddydd i ddydd.
“Dydy’r ganllaw ddim yn cymryd lle cyngor cyfreithiol ac nid datganiad diffiniol o’r gyfraith mohono, ond mae’n cynnig trosolwg manwl, cyd-destun ac enghreifftiau buddiol o’r ffyrdd y gall ymarferwyr ddefnyddio’r gyfraith, sydd wedi newid yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf.
“Hoffwn ddiolch i John Williams, Athro Emeritws y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth, am ei holl waith caled yn drafftio’r fersiwn ddiweddaraf hon o’r ganllaw. Mae ymrwymiad John i hyrwyddo hawliau dynol a diogelu pobl hŷn yn ysbrydoledig, ac mae ei allu i gyfleu cysyniadau cymhleth mewn ffordd syml yn golygu bod hwn yn adnodd gwerthfawr i ymarferwyr.
“Drwy’r ganllaw hon, rwyf eisiau sicrhau bod y gyfraith wedi’i deall mor eang â phosibl ac yn cael ei defnyddio’n effeithiol. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael mynediad i’r gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, bod eu hawliau’n cael eu parchu, a’u bod yn cael eu diogelu a’u hamddiffyn.”
Cliciwch yma i lawrlwytho Amddiffyn pobl hŷn yng Nghymru: Canllaw i’r gyfraith