Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Diwrnod Hawliau Dynol 2018: Cyfle i Cymru fod ar flawn y gad ledled y byd

i mewn Newyddion

Mae Diwrnod Hawliau Dynol yn ein hatgoffa pam mae hawliau yn bwysig i ni i gyd, drwy dynnu ein sylw at sut mae hawliau yn ein hamddiffyn a’r gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud i’n bywydau, heb i ni sylwi yn aml iawn.

Gall hawliau dynol helpu i atal camdriniaeth, esgeulustod a gofal annigonol, yn ogystal â helpu i sicrhau bod dewisiadau personol ac urddas pobl yn cael eu cynnal; gall hawliau dynol helpu i sicrhau bod bywyd teuluol pobl hŷn yn cael ei amddiffyn ac nad ydynt yn cael eu hamddifadu o’u rhyddid.

Ond nid yw llawer o bobl hŷn yn ymwybodol o’u hawliau a sut gallant eu hamddiffyn. Mae ymchwil a gynhaliwyd ar fy rhan wedi canfod bod un o bob tri o bobl hŷn – dros chwarter miliwn o bobl – ddim yn deall eu hawliau. Os nad yw unigolion yn deall yr hawliau sydd ganddynt, byddant yn ei chael yn anodd eu defnyddio yn eu bywydau o ddydd i ddydd a chymryd camau gweithredu, os bydd angen, i sicrhau bod eu hawliau’n cael eu cynnal. 

Mae hawliau yn eiddo i ni i gyd a dylai cyrff cyhoeddus eu defnyddio i sicrhau tegwch, cydraddoldeb, urddas, parch ac ymreolaeth. Dylid defnyddio hawliau mewn modd rhagweithiol fel ffordd o hybu gwelliannau a newidiadau diwylliannol, i sicrhau bod y pwynt cychwynnol ar gyfer gwneud penderfyniadau a pholisïau seiliedig ar y person, yn hytrach na’r system.

Er bod mwy a mwy o gyrff cyhoeddus yn cydnabod pwysigrwydd hawliau yng Nghymru a bod rhai enghreifftiau o ddefnyddio dulliau seiliedig ar hawliau fel sail i ddarpariaeth gwasanaethau, mae llawer o ffordd i fynd cyn i hyn ddod yn drefn arferol. Yn y cyfamser, mae’n rhaid i ni achub ar bob cyfle i hybu hawliau a’u pwysigrwydd i wneud yn siŵr bod hawliau yn gwthio’r agenda polisïau yng Nghymru, yn hytrach na bod yn droednodyn ynddi.

Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgymryd â gwaith amrywiol i ‘wireddu hawliau’ pobl hŷn yn gam pwysig ymlaen, ond mae Cymru hefyd wedi cael cyfle i wneud hyd yn oed mwy a bod ar flaen y gad ledled y byd drwy ddangos ei hymrwymiad i hawliau pobl hŷn.

Dyna pam rwy’n cefnogi cynnig Darren Millar AC i gael Bil Hawliau Pobl Hŷn, sef deddfwriaeth wedi’i llunio i gorffori hawliau pobl hŷn yng nghyfraith Cymru er mwyn i bobl hŷn allu byw heb ragfarn a gwahaniaethu ar sail oedran, a chymryd rhan lawn yn eu cymunedau.

Byddai bil fel hyn yn creu dyletswyddau penodol ar gyfer Llywodraeth Cymru i roi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn ledled ei gwaith, ac i adrodd ar y ffyrdd mae’n hybu hawliau pobl hŷn. Byddai hefyd yn codi proffil a statws hawliau pobl hŷn, gan helpu i sicrhau eu bod yn deall yr hawliau sydd ganddynt yn well, a phryd mae amodau’r hawliau hynny’n cael eu torri.

Roedd cefnogaeth drawsbleidiol i fil fel hwn pan gafodd ei drafod yn y Cynulliad o’r blaen, yn dilyn galwadau gan fy swyddfa am ddeddfwriaeth hawliau pobl hŷn, ac rwyf wir yn gobeithio y bydd yr awydd i gymryd camau ystyrlon a blaengar i amddiffyn a hybu hawliau pobl hŷn yn cael eu cynnal.

Rwyf yn edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau’r Cynulliad wrth i’r cynigion hyn gael eu harchwilio a’u trafod yn ystod yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod, ond byddaf hefyd yn cyflwyno’r achos i nodi pam mae hawliau pobl hŷn a dull seiliedig ar hawliau mor bwysig, ynghyd â chefnogi pobl hŷn drwy fy nhîm gwaith achos, a dal gwasanaethau cyhoeddus i gyfrif lle bo hynny’n angenrheidiol, i sicrhau bod eu hawliau’n cael eu cynnal.


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges