Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Kelly Davies:
“Rwyf yn croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn chwilio am ffyrdd posibl o godi’r arian pwysig hwn sydd ei angen i dalu am ofal cymdeithasol ac yn croesawu adroddiad yr Athro Holtham fel rhan o’r ddadl hon.
“Mae’n hanfodol sicrhau cyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol i ddarparu’r gofal a’r cymorth sydd ei angen ar bobl wrth iddynt fynd yn hŷn, ac mae pobl hŷn am weld ateb teg sy’n darparu gofal o safon uchel iddynt os bydd ei angen arnynt a phan mae ei angen arnynt.
“Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod bod ansawdd ac argaeledd gwasanaethau gofal cymdeithasol yn effeithio ar bobl o bob oedran. Mae ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar wedi dangos bod faint sy’n cael ei wario ar wasanaethau cymdeithasol i bobl hŷn yn is na’r gwariant ar grwpiau oedran eraill.
“Dylai Llywodraeth Cymru ystyried edrych ar y trefniadau cyllido ar gyfer y system gwasanaethau cymdeithasol yn gyffredinol er mwyn sicrhau bod unrhyw ddull newydd yn rhoi ateb tymor hir cynaliadwy, ac yn darparu gofal a chymorth o’r safon uchaf i bawb y mae eu hangen arnynt.”