Angen Help?

Diogelu hawliau pobl: Penderfyniadau am driniaeth a Ffurflenni Na Cheisier CPR

i mewn Newyddion

“Rydym yn gweld enghreifftiau1 gwarthus lle mae’n ymddangos bod penderfyniadau cyffredinol yn cael eu gwneud am y dewisiadau gofal a thriniaeth fydd ar gael i bobl hŷn ac i bobl agored i niwed sydd wedi cael eu rhoi dan bwysau i lofnodi ffurflenni Na Cheisier CPR.

“Yn ogystal â hynny, mae llawer o bobl y mae hyn yn effeithio arnynt wedi teimlo’n bryderus ac ofnus ac maent yn poeni nad yw eu bywyd na’u dymuniadau yn bwysig. Mae hyn yn gywilyddus ac yn annerbyniol.

“Nid oes dwywaith y bydd rhaid gwneud penderfyniadau anodd a chaled dros yr wythnosau nesaf, ond dylid gwneud y penderfyniadau hynny ar sail yr achos unigol, gan bwyso a mesur y peryglon a’r manteision, a dymuniadau’r unigolion eu hunain drwy drafodaethau gonest rhwng y cleifion, y meddygon a’r teuluoedd. Penderfyniad yr unigolyn yw dewis llofnodi ffurflen Na Cheisier CPR ai peidio, ac mae ganddynt yr hawl i wneud y penderfyniad hwnnw heb bwysau.

“Rydym yn llwyr sylweddoli’r straen eithriadol a wynebir gan yr holl staff sy’n gweithio ar draws ein sectorau iechyd a gofal cymdeithasol ar yr adeg anodd hwn, ond mae’n hanfodol ein bod yn parhau i ddiogelu hawliau dynol sylfaenol pobl. Byddai’n hollol annerbyniol disodli’r hawliau hyn gan benderfyniadau cyffredinol a gwahaniaethol.

“Mae’n hanfodol hefyd fod llywodraethau a gwasanaethau iechyd yn ein pedair gwlad yn ystyried yn ofalus sut gallant ddarparu arweinyddiaeth ac arweiniad cryfach – er mwyn sicrhau bod hawliau pobl yn cael eu diogelu a bod y negeseuon i bobl agored i niwed yn cael eu cyfleu mewn modd llawer mwy sensitif i geisio atal rhagor o boen meddwl a gofid wrth i ni wynebu’r llwybr anodd o’n blaenau.”

Datganiad ar y cyd gan:

Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Caroline Abrahams, Cyfarwyddwr Elusen Age UK
Deborah Alsina, Prif Weithredwr Independent Age
Jane Ashcroft, Prif Weithredwr Anchor Hanover
Victoria Lloyd, Prif Weithredwr Age Cymru
Eddie Lynch, Comisiynydd Pobl Hŷn Gogledd Iwerddon
Donald Macaskill, Prif Weithredwr Care Scotland
Linda Robinson, Prif Weithredwr Age Northern Ireland
Brian Sloan, Prif Weithredwr Age Scotland

DIWEDD 


1: Gweler er enghraifft:

Coronavirus: GP surgery apology over ‘do not resuscitate’ form – https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-52117814

Coronavirus: Care workers ‘shocked’ by virus treatment guidance – https://www.bbc.co.uk/news/uk-politics-52155359   

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges