Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Dileu’r terfyn oedran uchaf wrth gasglu data sy’n ymwneud â cham-drin

i mewn Newyddion

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Rwy’n croesawu’n fawr y cyhoeddiad i gael gwared â’r terfyn oedran uchaf o 74 oed wrth gasglu data sy’n ymwneud â cham-drin domestig. 

“Mae diffyg data cadarn yn ymwneud â cham-drin yn golygu bod nifer sylweddol o bobl hŷn mewn perygl o fod yn anweledig i’r sawl sy’n llunio polisïau a gwneud penderfyniadau.

“Bydd llenwi’r bwlch hwn yn y data yn helpu i sicrhau ein bod yn cael darlun cywir o’r ffyrdd y mae cam-drin domestig yn effeithio ar bobl hŷn fel y gellir targedu cymorth ac adnoddau’n fwy effeithiol.

“Cyn bo hir, byddaf yn cwrdd â’r Athro Syr Ian Diamond, Ystadegydd Cenedlaethol y DU yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol, i drafod sut i fwrw ymlaen â’r gwaith hyn.

“Hefyd, byddaf yn parhau i weithio gyda phartneriaid ledled Cymru a’r DU i fynd i’r afael â’r broblem hon a sicrhau bod pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin neu sydd mewn perygl o gael eu cam-drin yn gallu cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.”


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges