Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Diffyg gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru yn esgeuluso preswylwyr cartrefi gofal ledled Cymru

i mewn Newyddion

Mae Llywodraeth Cymru wedi methu cymryd y camau y gwnaeth addo eu cymryd mewn nifer o feysydd allweddol er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Mae’r adroddiad newydd – Lle i’w Alw’n Gartref: Effaith a Dadansoddiad – hefyd yn dangos, er bod rhywfaint o gynnydd cadarnhaol wedi cael ei wneud gan Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol sydd ag amrywiaeth helaeth o weithgareddau ar y gweill, bod angen gwneud llawer mwy i roi sicrwydd i’r Comisiynydd y bydd y newid sydd ei angen i wella ansawdd bywyd preswylwyr cartrefi gofal yn cael ei gyflawni.

Mae’r adroddiad yn nodi canfyddiadau rhaglen o waith dilynol a gynhaliwyd gan y Comisiynydd yn ystod 2017 i asesu a yw cyrff cyhoeddus wedi bodloni’r ymrwymiadau a wnaethant pan gyhoeddodd y Comisiynydd ganfyddiadau ei Harolwg o Gartrefi Gofal yn 2014, a oedd yn dangos bod gan lawer gormod o bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru ansawdd bywyd annerbyniol.

Roedd y Comisiynydd yn canolbwyntio ar 15 o’r meysydd y nodwyd eu bod yn peri pryder yn ei Harolwg o Gartrefi Gofal – gan gynnwys atal cwympiadau, defnyddio meddyginiaeth gwrth-seicotig, hyfforddiant dementia, prosesau arolygu a chynllunio’r gweithlu. Mae’r meysydd hyn y tu allan i ddatblygiadau deddfwriaethol neu’n ymwneud â materion parhaus sydd wedi’u rhannu â’i thîm gwaith achos. Cyflwynodd cyrff cyhoeddus dystiolaeth yn nodi eu cynnydd yn unol â’r Gofynion Gweithredu a bennwyd yn Adolygiad y Comisiynydd o Gartrefi Gofal, ac fe gawsant eu dadansoddi gan y Comisiynydd a’i thîm.

Dywedodd Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Pan gyhoeddais ganfyddiadau fy Arolwg o Gartrefi Gofal, roeddwn i’n glir bod angen amrywiaeth helaeth o gamau gweithredu, ar lefel leol a chenedlaethol, er mwyn sicrhau bod ansawdd bywyd yn ganolog i’n system cartrefi gofal.

“Croesawyd canfyddiadau fy Arolwg o Gartrefi Gofal gan yr holl gyrff cyhoeddus a oedd yn rhan ohono ac fe wnaethant ymrwymiadau cyhoeddus penodol i weithredu mewn ymateb i’r gofynion gweithredu a nodwyd yn fy adroddiad o’r Arolwg, ‘Lle i’w Alw’n Gartref?’.

“Mae Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol wedi gwneud cynnydd cadarnhaol ac, o ganlyniad i fy Arolwg, maen nhw bellach yn darparu amrywiaeth helaeth o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar wella ansawdd bywyd pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, ond mae angen gwneud mwy ac mae angen cyflymu’r newid yn sylweddol er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i breswylwyr cartrefi gofal.

“Fodd bynnag, rwy’n siomedig iawn bod Llywodraeth Cymru wedi methu dangos arweinyddiaeth ddigonol a chymryd camau gweithredu digonol mewn nifer o feysydd allweddol, fel gofal dal dŵr, atal cwympiadau a chynllunio gweithluoedd, lle mae angen dull cenedlaethol er mwyn sicrhau newid diwylliannol ystyrlon, sicrhau mwy o atebolrwydd a hyrwyddo’r gwaith o ddefnyddio arferion da sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn effeithiol.”

Mae’r Comisiynydd wedi darparu adborth manwl i’r holl gyrff sy’n rhan o’r gwaith dilynol hwn ac mae’n disgwyl iddynt gymryd camau gweithredu pellach, gyda goruchwyliaeth ar lefel bwrdd, i wella ansawdd bywyd pobl hŷn yn y meysydd allweddol a amlygwyd ganddi yn ei hadroddiad dilynol.

Ychwanegodd y Comisiynydd: “Rhaid i Lywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol ganolbwyntio o’r newydd ar gymryd camau gweithredu ystyrlon er mwyn cyflawni’r ymrwymiadau a wnaethant mewn ymateb i fy Arolwg o Gartrefi Gofal. Bydd methu gwneud hynny yn golygu na fydd ein system cartrefi gofal yn gallu diwallu anghenion pobl hŷn o ran gofal a chymorth ac, yn bwysicach byth, bydd yn golygu bod ansawdd bywyd gormod o bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yn parhau i fod yn annerbyniol.

DIWEDD

Cliciwch yma i lawrlwytho Lle i’w Alw’n Gartref: Effaith a Dadansoddiad




Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges