Angen Help?

Ddylai Cymru ddim cael ei gadael ar ôl wrth drechu unigrwydd ac unigedd

i mewn Newyddion

Dywedodd Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Ar ôl i Lywodraeth yr Alban gyhoeddi strategaeth ddrafft ar unigrwydd yn gynharach yr wythnos hon, ac yn dilyn y cyhoeddiad heddiw fod Llywodraeth y DU wedi penodi Gweinidog Unigrwydd, rydw i’n pryderu fwyfwy fod Cymru mewn perygl o gael ei gadael ar ôl wrth drechu unigrwydd ac unigedd, sy’n effeithio ar fywydau pobl hŷn.

“Yn wyneb y dystiolaeth gynyddol sy’n dangos yn glir effeithiau unigrwydd ar iechyd meddwl a chorfforol pobl a’r costau cysylltiedig i bwrs y wlad, ynghyd â’r camau sy’n cael eu cymryd yn awr mewn rhannau eraill o’r DU, bydd pobl hŷn yng Nghymru yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gymryd camau ystyrlon i fynd i’r afael â’r mater allweddol hwn sy’n gwaethygu. 

“Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi strategaeth unigrwydd yn 2019, byddwn yn ei hannog i gyflymu’r broses hon i sicrhau bod gennym ni ddull cenedlaethol ar waith, cyn gynted â phosibl, i fynd i’r afael â’r mater iechyd cyhoeddus pwysig hwn sy’n epidemig yn yr oes sydd ohoni.”  


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges