Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Dathlu’r bobl sy’n gwneud Cymru yn lle da i heneiddio

i mewn Newyddion

Mae’r ffyrdd ysbrydoledig mae grwpiau ac unigolion yn gweddnewid bywydau pobl hŷn mewn cymunedau ledled Cymru wedi cael eu cofnodi mewn cyfres o Straeon Heneiddio’n Dda, a gyhoeddir heddiw gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Mae’r casgliad o straeon yn dathlu’r gwaith anhygoel ac arloesol sy’n cael ei gyflawni’n lleol ar gyfer pobl hŷn sy’n gwneud byd o wahaniaeth i’w bywydau, ond maen nhw hefyd yn ceisio ysbrydoli pobl eraill i weithredu yn eu cymunedau eu hunain a sefydlu eu mentrau eu hunain i helpu pobl hŷn ledled Cymru i heneiddio’n well.

Mae’r straeon yn edrych ar amrywiaeth o themâu – gan gynnwys bod yn egnïol, dysgu rhywbeth newydd, bod yn greadigol, ymgysylltu â’r gymuned a gwneud gwahaniaeth – a byddan nhw’n cael eu dosbarthu ar draws Cymru i’r rheini sydd awydd dechrau eu menter eu hunain drwy’r Rhwydwaith Heneiddio’n Dda yng Nghymru sydd bellach â dros 1,500 o aelodau gan gynrychioli dros 500 o grwpiau a mudiadau. 

Dywedodd Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: “Fe wnes i sefydlu Heneiddio’n Dda yng Nghymru fel mudiad cymdeithasol i ddod â phobl at ei gilydd i greu newid cadarnhaol a gwneud Cymru yn lle da i heneiddio i bawb.

“Mae hi wedi bod yn anrhydedd cwrdd â chynifer o unigolion, grwpiau a mudiadau anhygoel sydd wedi ymrwymo i wneud ein pentrefi, ein trefi a’n dinasoedd yn llefydd gwell i heneiddio ac sy’n cyflawni cynifer o bethau anhygoel i wella bywydau pobl hŷn.

“Roeddwn eisiau dathlu cyfraniad neilltuol aelodau’r Rhwydwaith Heneiddio’n Dda i’w cymunedau, pobl sy’n llawn o’r ysbryd cymunedol sy’n ein diffinio ni fel cenedl, ac ysbrydoli pobl eraill drwy ddangos beth mae modd ei gyflawni pan ddaw cymunedau at ei gilydd. Dyna pam rwyf wrth fy modd yn cael cyhoeddi’r straeon hyn heddiw.”

Cafodd y Straeon Heneiddio’n Dda eu lansio yn yr olaf o gyfres o ddigwyddiadau Dathlu Cymunedau Heneiddio’n Dda yng Nghymru, a gafodd eu cynnal ar draws Cymru yn ystod Ionawr i Mawrth. Mae’r digwyddiadau wedi dod ag aelodau’r Rhwydwaith Heneiddio’n Dda ynghyd, gan roi cyfle iddyn nhw glywed gan y rheini sydd wedi sefydlu mentrau Heneiddio’n Dda, cymryd rhan mewn sesiynau gweithredu rhyngweithiol, rhannu ymarfer da ac edrych ar gyfleoedd newydd i weithio a phartneriaethau.

Dywedodd Cydlynydd Heneiddio’n Dda yng Nghymru, Steve Huxton: “Mae hi wedi bod yn bleser llwyr gweithio gydag aelodau’r Rhwydwaith Heneiddio’n Dda ledled Cymru er mwyn dod â’u straeon a’u profiadau ynghyd, ac arddangos y gwaith ardderchog maen nhw’n ei gyflawni gydag ac ar gyfer pobl hŷn.

“Mae’r straeon yn dangos bod pethau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl hŷn a gyda’r gefnogaeth iawn gan eu cymunedau, bod pobl arferol yn gallu gwneud pethau eithriadol.”


Bydd y casgliad llawn o Straeon Heneiddio’n Dda ar gael i’w darllen ar wefan Heneiddio’n Dda yng Nghymru – http://www.ageingwellinwales.com/wl/home

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges