Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Yn dilyn fy ngalwadau am ragor o weithredu i ddiogelu pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal a gweithwyr gofal, ac er mwyn atal lledaeniad Covid-19 mewn cartrefi gofal, rwyf yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi darparu rhagor o fanylion ynghylch y gwaith y bydd yn ei wneud i fynd i’r afael â´r pryderon roeddwn wedi’u codi, yn enwedig mewn perthynas â phrofi preswylwyr a staff.
“Fodd bynnag, mae dal angen rhagor o wybodaeth ar draws nifer o feysydd er mwyn cael sicrwydd y bydd yr holl gamau roeddwn wedi gofyn amdanynt yn cael eu rhoi ar waith yn gyflym ac yn effeithiol.
“Nid wyf chwaith eto yn gwbl dawel fy meddwl bod digon o waith yn cael ei wneud i gofnodi ac i gyhoeddi data ystyrlon ynghylch y niferoedd sydd wedi cael eu heintio a’r nifer sydd wedi colli eu bywydau mewn cartrefi gofal. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn bod yn fwy tryloyw ac er mwyn cael darlun llawn o effaith y coronafeirws, ac er mwyn cyfrannu at benderfyniadau ynghylch ble a sut dylid dyrannu adnoddau.
“Rwyf hefyd yn dal yn poeni nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo eto i gyhoeddi cynllun gweithredu penodol i ddatgan yn glir i’r cyhoedd beth sy’n cael ei wneud, a beth arall mae angen ei wneud, a phryd caiff hyn ei wneud. Byddai hyn yn ein galluogi i ddal Llywodraeth Cymru a Chyrff Cyhoeddus i gyfrif am yr hyn maen nhw’n ei wneud mewn ffordd adeiladol a chyfrifol.
“Heb gyhoeddi’r cynllun gweithredu hwn, bydd pobl hŷn, eu teuluoedd, a’r cyhoedd yn gyffredinol, yn dal i boeni am yr hyn sy’n digwydd mewn cartrefi gofal. Bydd cwestiynau’n siŵr o barhau i gael eu gofyn ynghylch a yw Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau sydd eu hangen, ac a oes digon yn cael ei wneud i ddiogelu ac i gefnogi pawb sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal.”