Dywedodd Daisy Cole, y Cyfarwyddwr Llesiant a Grymuso:
“Mae’r adroddiad heddiw yn ei gwneud yn amlwg bod methiannau difrifol ledled amrywiaeth helaeth o feysydd – gan gynnwys diogelu, cyfathrebu, lefelau staffio, hyfforddiant staff a rheoli perfformiad – a bod aelodau o’r bwrdd heb gymryd camau gweithredu digonol i fynd i’r afael â’r methiannau hyn, a oedd yn rhoi cleifion hŷn agored i niwed yng Ngogledd Cymru mewn perygl.
“Y mae hefyd yn destun pryder mai ychydig iawn o dystiolaeth sydd bod gwelliannau yn cael eu rhoi ar waith mewn rhai meysydd, a bod diffyg eglurder ynghylch trefniadau diogelu.
“Er bod yr adroddiad yn nodi bod llawer o bwysau wedi bod ar y Bwrdd Iechyd, nid yw’n dderbyniol bod camau gweithredu heb gael eu cymryd dro ar ôl tro yng nghyswllt y pryderon a oedd yn cael eu codi, er gwaetha’r ffaith fod aelodau o’r bwrdd wedi sicrhau y byddai camau gweithredu yn cael eu cymryd a gwelliannau’n cael eu darparu.
“Er fy mod yn croesawu’r cynnydd sy’n cael ei wneud nawr, yn ôl yr adroddiad, bydd pobl hŷn a’u teuluoedd ledled Gogledd Cymru, a pherthnasau’r cleifion a gafodd ofal o safon annerbyniol ar ward Tawel Fan yn enwedig, yn gofyn cwestiynau difrifol i’r Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru ynghylch sut roedd yn bosib i’r methiannau a ddisgrifiwyd ddigwydd yn y lle cyntaf, heb sôn am barhau am gyfnod mor hir.
“Hefyd, does dim amheuaeth na fyddant yn gyndyn iawn o dderbyn y sicrwydd sy’n cael ei roi o ystyried canfyddiadau’r adroddiad, ac mae’n amlwg bod llawer iawn o waith angen ei wneud er mwyn cryfhau’r ymddiriedaeth rhwng y Bwrdd Iechyd a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.
“Bydd swyddfa’r Comisiynydd yn parhau i fonitro’r cynnydd sy’n cael ei wneud gan y Bwrdd Iechyd er mwyn sicrhau bod camau gweithredu ystyrlon yn cael eu cymryd i sicrhau bod yr holl gleifion yn ddiogel, yn cael eu gwarchod ac yn cael gofal o’r safon uchaf bob amser.”