Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE:
“Mae’r llythyr a anfonwyd at gleifion agored i niwed, a nifer ohonynt yn bobl hŷn, gan Feddygfa Llynfi ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi achosi cryn bryder a chynnwrf, ac rwyf wedi synnu bod y llythyr hyd yn oed wedi cael ei ysgrifennu, heb sôn am ei anfon allan.
“Yn ddiau bydd llawer o’r rheini a gafodd y llythyr yn teimlo’n ddiwerth, nad yw eu bywydau yn bwysig a byddan nhw wedi teimlo cryn bwysau i lofnodi ffurflen DNACP. Mae hyn yn gywilyddus ac yn annerbyniol.
“Er y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd a phoenus yn ystod yr wythnosau nesaf, mae’n rhaid gwneud y rhain fesul achos, drwy drafodaethau onest rhwng cleifion, meddygon a’u teuluoedd sy’n ystyried y risgiau a’r manteision, yn ogystal â dymuniadau pobl.
“Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae hi’n hollbwysig ein bod yn parhau i ddiogelu hawliau dynol sylfaenol pobl. Byddai’n hollol annerbyniol anwybyddu’r hawliau hyn a gwneud penderfyniadau cyffredinol sy’n gwahaniaethu.
“Rwyf yn croesawu’r ffaith bod y feddygfa a’r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro i’r cleifion dan sylw, a gobeithio y bydd y sefyllfa ofnadwy hon yn arwain at arweinyddiaeth a chyfarwyddyd cryfach, gan fyrddau iechyd a gan Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod hawliau pobl yn cael eu cynnal a bod cyfathrebu â chleifion agored i niwed yn cael ei drin mewn ffordd llawer mwy sensitif wrth i ni symud ymlaen ar hyd y llwybr anodd hwn sydd o’n blaenau.”