Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Datganiad: Gwarchod dinasyddion bregus rhag y coronafeirws

i mewn Newyddion

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE:

Mae’r cyhoeddiad a wnaed heddiw, y bydd 70,000 o ddinasyddion yng Nghymru yn cael eu cynnwys mewn ‘grŵp gwarchod’ er mwyn eu hamddiffyn rhag y coronafeirws, yn gam pwysig. Ond, bydd yn achosi pryder mawr i lawer o bobl hŷn ac i bobl fregus.

Felly, mae’n hollbwysig bod y Llywodraeth yn sicrhau bod gan y bobl yn y grŵp hwn yr wybodaeth fanwl a’r arweiniad y bydd eu hangen arnynt er mwyn aros yn iach. Mae hefyd yn hollbwysig bod y Llywodraeth yn rhoi sicrwydd i’r bobl hyn y byddan nhw’n dal i gael y gofal a’r gefnogaeth angenrheidiol, yn gallu cael gafael ar eitemau hanfodol, ac yn gallu cadw mewn cysylltiad â’u teulu a’u ffrindiau.

Ond, i sicrhau bod y grŵp hwn yn ddiogel, mae hefyd yn hollbwysig bod y boblogaeth ehangach yn dilyn cyngor y Llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol er mwyn rheoli lledaeniad y feirws cymaint â phosib. Roedd y golygfeydd dros y penwythnos o bobl yn ymgynnull mewn llefydd fel parciau a thraethau yn achosi pryder mawr, o ystyried bod gwasanaethau iechyd ar draws y wlad dan bwysau sylweddol yn barod.

Rhaid i ni gofio hefyd bod llawer o bobl hŷn sydd ddim yn perthyn i’r grŵp gwarchod yn dal yn gallu bod mewn perygl neu’n fregus – yn enwedig y rheini sy’n byw ar eu pen eu hunain. Rhaid i ni barhau i’w hamddiffyn a’u cefnogi er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cael yr help sydd ei angen arnynt er mwyn bod yn ddiogel ac yn iach.

 


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges