Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Datganiad gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru: Hawliau Pobl Hŷn

i mewn Newyddion

Dywedodd Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: “Fel Comisiynydd, rydw i wedi gweld â’m llygaid fy hun ac wedi clywed gan bobl hŷn ledled Cymru y ffyrdd y mae hawliau pobl hŷn, yn enwedig y rhai a allai fod yn agored i niwed, yn lleihau wrth iddynt fynd yn hŷn, ac mae hynny’n rhywbeth sy’n gallu cael effaith ddinistriol ar eu bywydau.

“Mae’n hanfodol felly bod dull sy’n seiliedig ar hawliau yn cael ei wreiddio ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru er mwyn sicrhau bod pobl hŷn yn gydradd â grwpiau oedran eraill yn ogystal â sicrhau bod eu hawliau’n cael eu hyrwyddo a’u diogelu fel eu bod yn gallu byw heb gamdriniaeth, esgeulustod, rhagfarn ar sail oedran a gwahaniaethu gan gyfranogi’n llawn yn eu cymunedau a ffynnu wrth heneiddio. 

“Yn fy marn i, y ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod y dull hwn yn cael ei fabwysiadu ledled Cymru yw drwy ddeddfwriaeth benodol a fyddai’n creu dyletswyddau penodol i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn, yn yr un modd ag yr atgyfnerthodd y Mesur Plant hawliau plant a phobl ifanc yn 2011, a gwneud hawliau’n fwy perthnasol a real i unigolion.   Dyma gynnig a wnes i gyntaf cyn etholiad diwethaf y Cynulliad Cenedlaethol a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol a chefnogaeth Prif Weinidog Cymru. 

“Mae’n rhaid i ni barhau i roi blaenoriaeth i greu’r ddeddfwriaeth hon yng Nghymru, ond rydw i’n deall ei bod hi’n broses a fydd yn cymryd amser i’w chyflawni. 

“Yn y cyfamser, mae’n hanfodol bod camau gweithredu ystyrlon yn cael eu cymryd i sicrhau bod hawliau pobl hŷn ledled Cymru yn cael eu cefnogi a bod mwy o ffocws o lawer ar hawliau ar draws gwasanaethau cyhoeddus a’r llywodraeth. Felly, rydw i wedi bod yn trafod â Llywodraeth Cymru ynghylch sut y gellid cyflawni gwelliannau mwy uniongyrchol a fyddai’n sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu diogelu’n well. 

“Rydw i hefyd yn cefnogi camau gweithredu pellach, fel y siarter arfaethedig ar gyfer pobl hŷn, a fydd yn atgyfnerthu hawliau pobl hŷn hyd nes bydd y ddeddfwriaeth rydw i wedi galw amdani, deddfwriaeth y mae pobl hŷn yn teimlo ei bod hi’n hanfodol ac a fyddai’n gwneud gwahaniaeth mawr i’w bywydau, yn cael ei datblygu a’i rhoi ar waith.”




Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges