Datganiad: Ei Mawrhydi y Frenhines
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Roedd hi’n ddrwg calon gen i a’m tîm glywed am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines.
“I bobl ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, ac ym mhedwar ban byd, mae hi wedi bod yn ffigwr ysbrydoledig a digyfnewid mewn byd llawn newidiadau.
“Bydd y Frenhines yn cael ei chofio am dreulio ei hoes yn gwbl ymroddedig i wasanaeth cyhoeddus, am ei hymrwymiad i’w dyletswyddau a’r wybodaeth, y profiad a’r doethineb a oedd yn nodweddion o’i theyrnasiad hyd y diwedd un.
“Rydym yn cydymdeimlo â’r Teulu Brenhinol ac yn meddwl amdanynt wrth i’r genedl alaru.”