Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Dwi’n gwybod fod y boen a’r galar yn brifo i’r byw ymysg y teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn dilyn y methiannau syfrdanol mewn gofal a ganfuwyd yn y cwêst hwn. Hoffwn roi teyrnged i’r modd urddasol y gwnaethant godi llais a chyflwyno’r achos ar ran eu perthnasau.
“Mae eu hymdrechion a’u dycnwch dros flynyddoedd lawer wedi darparu atebion i’w cwestiynau o’r diwedd, er bod clywed yr atebion hynny am y gyfres o fethiannau gan unigolion ac yn y system ei hun wedi bod yn anodd. Cafodd y preswylwyr eu trin yn ddiraddiol, fel pe na baen nhw’n fodau dynol, ac roedd hynny wedi cyfrannu’n sylweddol yn y pen draw at farwolaeth eu hanwyliaid, sef pobl hŷn agored i niwed, gan fradychu eu hymddiriedaeth mewn ffordd mor frawychus.
“Mae canfyddiadau heddiw yn dangos yn glir pam fod y newidiadau rydyn ni wedi’u gweld ar draws ein system gofal cymdeithasol yn y blynyddoedd ers y methiannau hyn wedi bod mor bwysig, a pham y dylid parhau i ddysgu a gweithio i gyflwyno gwelliannau i sicrhau nad yw pobl hŷn byth eto’n profi’r math hwn o ofal gwarthus a brofodd preswylwyr Brithdir yn anffodus.”