Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae llawer o bobl wedi rhannu eu pryderon ynghylch yr effaith y gallai’r Bil Coronafeirws brys (a fydd hefyd yn berthnasol yng Nghymru) yn ei chael ar bobl hŷn a bregus, gyda’r posibilrwydd y bydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
“Mae’n bwysig cofio na fydd y newidiadau arfaethedig yn y ddeddfwriaeth ond yn cael eu rhoi ar waith pan fydd angen gwneud hynny, ac rwy’n gwybod y bydd y llu o weithwyr proffesiynol ymroddedig sy’n gweithio ledled ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau parhad gwasanaethau ac i gynnal hawliau pobl o dan yr amgylchiadau anoddaf.
“Os bydd angen rhoi’r newidiadau arfaethedig ar waith, byddaf yn monitro’r effaith y byddant yn ei chael ar bobl hŷn yn fanwl, gan godi unrhyw bryderon sydd gennyf â Llywodraeth Cymru. Byddaf yn parhau i gadw mewn cysylltiad â nhw yn rheolaidd fel y mae’r sefyllfa’n datblygu ac yn newid.
“Er bod cyfyngiad amser ar y Bil, byddwn hefyd yn disgwyl gweld y ddeddfwriaeth hon yn cael ei diddymu ar y cyfle cyntaf posibl i sicrhau y cyfyngir gymaint ag y bo modd ar yr effaith ar bobl hŷn ac ar y tarfu ar wasanaethau.”