Dywedodd y Dirprwy Gomisiynydd Pobl Hŷn, Kelly Davies:
“Rydw i’n croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru, gydag un eithriad, wedi derbyn neu dderbyn mewn egwyddor argymhellion y Pwyllgor. Mae hyn yn dangos cydnabyddiaeth bod rhaid rhoi sylw i’r materion y tynnir sylw atynt yn adroddiad y Pwyllgor, sy’n adlewyrchu pryderon a nodwyd yn Adolygiad y Comisiynydd o Gartrefi Gofal yn 2014.
“Fodd bynnag, mae diffyg manylion pwysig mewn rhannau o’r adroddiad am y gweithredu penodol i roi sylw i’r materion sydd wedi’u datgan yn adroddiad y Pwyllgor, ac mae gen i rywfaint o bryderon ynghylch y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi datgan unrhyw amserlenni clir ar gyfer cyflawni, er bod y Pwyllgor wedi bod yn benodol ynghylch pryd roeddent yn disgwyl i newid gael ei gyflawni.
“Byddaf yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am ragor o fanylion ac eglurder am nifer o’r pwyntiau a godwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru, yn enwedig mewn perthynas ag amserlenni, ac rwyf wedi dweud yn glir bod angen gweithredu a newid ystyrlon er mwyn sicrhau nad yw meddyginiaeth wrthseicotig yn cael ei rhoi’n amhriodol i rai o’n pobl hŷn mwyaf agored i niwed.”