Angen Help?
Overhead power lines

Datganiad ar y Cyhoeddiad ynghylch y Cap ar Brisiau Ynni

i mewn Newyddion

Datganiad ar y Cyhoeddiad ynghylch y Cap ar Brisiau Ynni

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae’r ffaith bod prisiau ynni’n debygol o ostwng yr haf hwn yn newyddion cadarnhaol. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio bod y cap newydd ar brisiau ynni yn golygu y bydd biliau ynni yn parhau i fod tua dwywaith y gost ag oedden nhw ddeunaw mis yn ôl.

“Gan fod y cymorth ariannol hollbwysig gan Lywodraeth y DU yn cael ei dynnu’n ôl, bydd hyn yn golygu y bydd tlodi tanwydd yn wynebu llawer o bobl hŷn, yn ogystal â biliau nad ydyn nhw’n gallu eu fforddio. Byddan nhw hefyd yn cael eu gorfodi i leihau gwariant ar nwyddau hanfodol eraill i geisio cael dau ben llinyn ynghyd, sy’n peryglu eu hiechyd meddwl yn sylweddol.

“Felly, mae angen i Lywodraeth y DU barhau i roi cymorth ariannol ar gyfer costau ynni tra bod biliau ynni’n dal mor uchel, gyda chymorth ychwanegol wedi’i dargedu at y rheini sydd fwyaf agored i niwed.”

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges