“Wrth i ni ddechrau ar aeaf a fydd yn anodd i bob un ohonom, byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd – fel rydym wedi’i wneud drwy gydol y pandemig – i graffu ar weithredoedd llywodraethau a chyrff cyhoeddus ar draws y DU. Byddwn yn eu dal i gyfrif am eu penderfyniadau ac yn sicrhau bod lleisiau, profiadau a phryderon pobl hŷn yn cael eu clywed.
“Byddwn yn parhau i gefnogi a gweithio gydag unigolion, grwpiau sydd wedi darparu help a chymorth hanfodol i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl hŷn ar draws ein cymunedau. Rydyn ni wedi gweld cymdeithas ar ei gorau wrth i bobl o bob oed ddod ynghyd a chefnogi a gofalu am ei gilydd. Bydd yr undod hwn rhwng y cenedlaethau yn bwysicach nag erioed wrth i ni symud ymlaen: rydyn ni’n gryfach gyda’n gilydd.
“Bydd hi’n bwysig sicrhau bod y camau gweithredu hollbwysig sy’n cael eu cymryd yn ein cymunedau yn cael eu cynnal a bod digon o adnoddau ar eu cyfer. Ac, wrth i ni ddelio â chyfnod nesaf y pandemig a’r pwysau a fydd ar ein gwasanaethau cyhoeddus, mae angen i ni hefyd ganolbwyntio’n ddiwyro ar ddiogelu hawliau pobl hŷn.
“Er gwaethaf datganiadau gan lywodraethau a chyrff cyhoeddus ar draws y DU ynghylch pwysigrwydd hawliau pobl hŷn, yn gynharach yn y flwyddyn gwelsom enghreifftiau pryderus sy’n awgrymu bod bylchau mawr wedi bod rhwng y rhethreg hon a’r gwirionedd. Wrth i ni symud ymlaen gyda’n gilydd, mae angen gweithredu i sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu diogelu a’u cynnal. Rhaid i oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oed – boed hynny’n cae ei wneud yn ymwybodol neu’n ddiarwybod – beidio â thanseilio na dylanwadu ar ymdrechion i ddelio â Covid-19.”
Heléna Herklots: Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Caroline Abrahams: Cyfarwyddwr Elusennol, Age UK
Deborah Alsina: Prif Weithredwr, Independent Age
Jane Ashcroft: Prif Weithredwr, Anchor Hanover
Victoria Lloyd: Prif Weithredwr, Age Cymru
Eddie Lynch: Comisiynydd Pobl Hŷn Gogledd Iwerddon
Donald Macaskill: Prif Weithredwr, Care Scotland
Linda Robinson: Prif Weithredwr, Age Northern Ireland
Brian Sloan: Prif Weithredwr, Age Scotland