Datganiad ar y cyd oddi wrth Heléna Herklots (Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru), Sally Holland (Comisiynydd Plant Cymru) a Sophie Howe (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru)
Dros yr wythnosau diwethaf, mae’r byd wedi newid yn gyflym ac yn arwyddocaol i bobl o bob oed. Ond ynghanol yr holl ansicrwydd, poeni a phryder, ry’ ni’n gweld pethau anhygoel yn digwydd wrth i genedlaethau ddod ynghyd i helpu ac i gefnogi eu gilydd.
O blant ysgol yn ysgrifennu i bobl mewn cartrefi gofal i lwythi o wirfoddolwyr yn helpu i sicrhau fod gan bobl bregus ddigon o fwyd a nwyddau, i bobl sydd wedi ymddeol yn ail-ymuno â’r gweithlu – mae pob cenhedlaeth yn chwarae rôl i’n helpu ni ddod drwy’r cyfnod anodd yma.
Wrth i ni lywio drwy’r llwybr anodd sydd o’n blaenau, mae mor bwysig ein bod ni’n gwneud hynny mewn undod. Mewn undod mae nerth, mewn undod fe wnewn ni ddod drwy hyn.
Ac wrth i ni ddod drwy hyn, mae’n rhaid i ni barhau mewn undod: mae’n rhaid i ni gofio beth bynnag yw ein hoedran, mae gyda ni fwy yn gyffredin nag sy’n ein gwahanu, ac mae’n rhaid i ni gofio’r caredigrwydd a’r trugaredd ry’ ni gweld yn ein cymunedau led-led Cymru. Wrth i ni edrych i’r dyfodol, mae’n rhaid i ni gofio cymaint y gallwn lwyddo gwneud wrth weithio gyda’n gilydd a chefnogi’n gilydd.
Ry’ ni cydnabod ac yn hynnod ddiolchgar o’r hyn mae ein gwasanaethau cyhoeddus wedi gwneud i ailddiffinio sut mae nhw’n gwasanaethau a gweithio gyda chymunedau lleol. Fel comisiynwyr, fe fyddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd i sicrhau fod hawliau pob cenhedlaeth yn cael eu gwarchod. Fe fyddwn ni’n cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus mewn unrhyw ffordd i wiethio drwy’r argyfwng yma ac i sichrau fod yna etifeddiaeth bositif hir dymor i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.