Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Datganiad ar y cyd am COVID-19: Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ac Age Cymru

i mewn Newyddion

Yn dilyn y cyhoeddiad ddoe bod y llywodraeth yn cynghori pobl dros 70 oed i gyfyngu ar gysylltiad cymdeithasol, bydd llawer o bobl hŷn a’u teuluoedd yn poeni am yr effaith y gallai hyn ei chael arnynt eu hunain neu ar eu hanwyliaid.

Ond mae’n hanfodol, ar yr adeg anodd ac ansicr hon, i bobl o bob oed barhau i ddilyn y cyngor diweddaraf gan y llywodraeth, gan fod gan bob un ohonom ran i’w chwarae i helpu i ohirio lledaeniad y firws ac i leihau’r risg iddynt eu hunain ac i eraill.

Hoffem atgoffa pobl hŷn a’u teuluoedd eu bod yn gallu cysylltu â ni o hyd ac y byddwn yn gwneud ein gorau glas i’w helpu. Byddwn hefyd yn parhau i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gan y llywodraeth drwy ein gwefannau a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol pan fydd yn cael ei chyhoeddi.  

Rydyn ni mewn cysylltiad rheolaidd â Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth a’r canllawiau diweddaraf i bobl hŷn yn cael eu cyfleu’n effeithiol, a bod cynlluniau ar waith i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol, fel gofal yn y cartref, yn parhau i gael eu darparu. 

Yn ogystal â hyn, byddwn yn parhau i fonitro ymateb a chamau gweithredu’r llywodraeth, ac yn mynegi pryderon ac yn galw am weithredu pellach os byddwn yn teimlo nad yw hyn yn ddigon i ddiogelu pobl hŷn.

Mae’r ymateb gan gymunedau hyd yn hyn wedi bod yn eithriadol ac mae’r cymorth sy’n cael ei ddarparu yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn barod. Os ydych chi’n gwybod am bobl hŷn y gall fod angen help neu gefnogaeth arnynt – er enghraifft gyda’u siopa neu i gasglu presgripsiynau – neu y gallai fod yn fuddiol iddynt gael rhywun i siarad â nhw, beth am gysylltu â nhw neu bostio nodyn drwy’r drws. Fe allai hyn wneud byd o wahaniaeth.

Bydd amrywiaeth o fentrau’n cael eu cynnig hefyd gan fudiadau cymunedol a gwirfoddolwyr ledled Cymru, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn yr wybodaeth ddiweddaraf ganddyn nhw hefyd i ddarganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal chi.

Nid oes modd osgoi’r ffaith bod y cyfnod hwn yn gyfnod o newid a tharfu nas gwelwyd ei fath o’r blaen, ac y bydd yn para’n hir o bosibl. Er hyn, rydyn ni’n hyderus y byddwn ni hefyd yn gweld yr ochr orau o bobl a’n cymunedau wrth i ni i gyd weithio drwy’r cyfnod anodd hwn a sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu cadw mor ddiogel â phosibl a’u bod yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt. 


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges