Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Datganiad ar y cyd â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru

i mewn Newyddion

“O ystyried y pryderon sylweddol y mae’r ddau ohonom yn eu rhannu am brofiadau pobl hŷn yn ystod y pandemig Covid-19, yn enwedig y rheiny sydd yn byw mewn cartrefi gofal, rydym wedi cytuno i weithio ar y cyd i ystyried a yw Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi cyflawni’u cyfrifoldebau i gynnal hawliau dynol pobl hŷn.  

“Rydym yn rhannu pryderon am faterion arwyddocaol gan gynnwys enghreifftiau o benderfyniadau gofal iechyd cyffredinol amhriodol ar faterion megis hysbysiadau Na cheisier dadebru cardio-anadlol, yr ymateb araf gan Lywodraeth Cymru i sicrhau profion digonol i breswylwyr a staff cartrefi gofal, a symud pobl hŷn a oedd yn ymddangos wedi profi’n bositif i Covid-19 o ysbytai i gartrefi gofal.  

“Rydym yn ystyried sut y gallwn orau ddefnyddio’n pwerau i graffu ar y penderfyniadau a’r camau a wneir yn ystod y pandemig hwn.   

“Rydym am weld y cynllun gweithredu a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cartrefi gofal yn amlinellu’r mesurau y bydd yn eu cymryd, gan weithio ag eraill, i gefnogi’r rheiny sydd yn byw a gweithio mewn cartrefi gofal a sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu hamddiffyn a’u hybu.

“Rhaid i hawliau pobl hŷn fod yn ganolog i gamau a phenderfyniadau ynglŷn â’r hyn fydd yn digwydd yn ein cartrefi gofal, ein system gofal cymdeithasol ehangach a’n cymunedau wrth i ni fynd rhagddi. Gobeithio bydd croeso i’n craffu, ac y gallwn weithio’n adeiladol â Llywodraeth Cymru ac eraill i helpu sicrhau bod hawliau dynol pobl hŷn yn cael eu hamddiffyn, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol fel ei gilydd.”

Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Ruth Coombs, Pennaeth Cymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Cliciwch yma i ddarllen y llythyr ar y cyd at Lywodraeth Cymru


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges