Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Datganiad ar ffigurau diweddaraf yr ONS: Marwolaethau mewn Cartrefi Gofal yng Nghymru

i mewn Newyddion

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae hi’n bwysig cofio bod y ffigurau hyn yn cynrychioli tor calon a cholled i deuluoedd ac i ffrindiau ym mhob cwr o Gymru, ac rwyf yn cydymdeimlo â’r rheini sydd wedi colli anwyliaid.

“Mae’r ffaith bod oddeutu 1 farwolaeth o bob 5 oherwydd Covid-19 wedi digwydd mewn cartrefi gofal yn drychineb llwyr oherwydd dyma’r llefydd lle dylai rhai o’n dinasyddion mwyaf agored i niwed fod yn cael eu cadw’n ddiogel ac yn saff.

“Drwy gymryd y camau iawn, mae dal amser i achub bywydau yn ein cartrefi gofal.

“Mae hi’n hanfodol bod y mesurau newydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru yn cael eu rhoi ar waith ar unwaith ac yn effeithiol, a bod profion yn cael eu hymestyn yn ehangach er mwyn sicrhau eu bod ar gael i bob cartref gofal yng Nghymru, er mwyn rhoi’r diogelwch a’r gefnogaeth sydd eu hangen i’r rheini sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal.”

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges