Mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn wedi croesawu data newydd sy’n datgelu cynnydd yn nifer y bobl sydd wedi dechrau hawlio Credyd Pensiwn yn ystod ei hymgyrch i annog pobl hŷn i hawlio’r cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo.
Mae data newydd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dangos bod nifer y bobl sydd wedi dechrau hawlio Credyd Pensiwn yng Nghymru 26% yn uwch1 yn ystod yr ymgyrch o’i gymharu â’r cyfartaledd fesul chwarter dros y ddwy flynedd diwethaf ac amcangyfrifir bod dros £10,000 yr wythnos – dros £500,000 y flwyddyn – bellach ym mhocedi pobl hŷn a fyddai fel arall wedi colli allan.2
Gweithiodd y Comisiynydd gyda Trafnidiaeth Cymru i ddosbarthu taflen yn annog pobl i hawlio Credyd Pensiwn gyda’r holl gardiau bws rhatach newydd a oedd yn cael eu hanfon at bawb dros 60 oed yng Nghymru yn 2019. Gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, cafodd dros 500,000 o daflenni eu dosbarthu ledled Cymru.
Roedd y Comisiynydd wedi lansio ei hymgyrch oherwydd pryderon ynghylch lefelau cynyddol o dlodi ymysg pobl hŷn yng Nghymru – mae bron i 1 person hŷn o bob 5 yng Nghymru nawr yn byw mewn tlodi incwm cymharol3 – ac roedd ffigurau’n dangos bod dros £214m o Gredyd Pensiwn heb ei hawlio yng Nghymru yn 2018/194.
Mae’r Comisiynydd wedi galw am ragor o weithredu a buddsoddiad i sicrhau bod Credyd Pensiwn yn cyrraedd pobl hŷn yng Nghymru gan ei fod yn darparu cymorth ariannol hanfodol gwerth £58 yr wythnos ar gyfartaledd i’r rheini sy’n gymwys ac yn darparu mynediad at amrywiaeth o fuddion eraill, fel gostyngiadau yn y dreth gyngor, gofal deintyddol am ddim a chymorth gyda chostau tai.
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n falch iawn bod fy ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o Gredyd Pensiwn ac i annog y rheini sy’n gymwys i hawlio yn ymddangos fel petai wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer yr hawlwyr newydd yng Nghymru. Mae hyn yn tynnu sylw at y manteision amlwg i bobl hŷn o ganlyniad i weithredu i gynyddu’r nifer sy’n hawlio hawliau ariannol.
“Rydyn ni’n gwybod bod tlodi ymysg pobl hŷn yn broblem gynyddol a bod hawliau fel Credyd Pensiwn yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i bobl hŷn sy’n cael trafferthion ariannol.
“Ar hyn o bryd mae pobl hŷn yng Nghymru yn colli dros £214 miliwn y flwyddyn o Gredyd Pensiwn heb ei hawlio, felly mae’n hanfodol bod pawb sydd â hawl i hawlio yn gallu gwneud hynny.
“Mae ymgyrch Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi5 Llywodraeth Cymru yn gam i’w groesawu tuag at gynyddu’r nifer sy’n hawlio, ond mae angen i ni weld camau pellach – yn genedlaethol ac yn lleol – i gynyddu nifer y bobl hŷn sy’n hawlio’r hyn y mae ganddynt hawl iddo.”
DIWEDD
Nodiadau:
1 Data gan gronfa ddata Stat-Xplore yr Adran Gwaith a Phensiynau – www.stat-xplore.dwp.gov.uk.
2 Cyfrifiadau yn seiliedig ar ganolrif gwerth yr hawliad ar gyfer nifer yr hawlwyr newydd ym mhob grŵp o fudd-daliadau
3 Llywodraeth Cymru (2020). Tlodi incwm cymharol: Ebrill 2018 i Fawrth 2019. Ar gael yn: https://llyw.cymru/tlodi-incwm-cymharol-ebrill-2018-i-fawrth-2019 [Agorwyd 16 Mawrth 2021]
4 Independent Age (2020) Pension Credit: a closer look. Ar gael yn: https://www.independentage.org/pension-credit-a-closer-look [Agorwyd 16 Mawrth 2021]
5 Llywodraeth Cymru (2021) Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi. Ar gael yn: https://llyw.cymru/hawliwch-yr-hyn-syn-ddyledus-i-chi [Agorwyd 16 Mawrth 2021]