Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Cyrsiau hyfforddi newydd i helpu pobl hŷn i adnabod a herio oedraniaeth

i mewn Newyddion

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn cyflwyno cyfres newydd o sesiynau hyfforddi i helpu pobl hŷn i adnabod a herio oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran.

Bydd y sesiynau hyfforddi yn helpu cyfranogwyr i ganfod oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran mewn amrywiaeth o leoliadau – er enghraifft yn y gweithle, iechyd, gofal a gwasanaethau eraill, ac yn y cyfryngau – yn ogystal ag edrych ar y ffyrdd i allu herio oedraniaeth.  

Mae’r hyfforddiant hefyd yn ymdrin â’r ddeddfwriaeth y gellir ei defnyddio i herio oedraniaeth a’r sefydliadau a all ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth os bydd rhywun yn gweld neu’n profi oedraniaeth. 

Datblygwyd yr hyfforddiant fel rhan o waith y Comisiynydd i roi diwedd ar oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran, yn dilyn lansio’i Hymgyrch #EverydayAgeism ym mis Hydref, sy’n anelu at godi ymwybyddiaeth o’r ffyrdd y mae oedraniaeth yn effeithio ar bobl hŷn ac ar gymdeithas, a newid agweddau fel nad yw’r oedraniaeth y mae pobl hŷn yn ei wynebu bob dydd yn cael ei ystyried yn dderbyniol mwyach. 

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae Oedraniaeth yn sail i lawer o’r problemau a wynebir gan bobl hŷn mewn cymdeithas heddiw ac rydym yn cael ein llethu bob dydd gan iaith a delweddau o oedraniaeth sy’n atgyfnerthu’r stereoteip ynglŷn â phobl hŷn.  

“Mae hyn yn golygu, yn anffodus, ein bod yn parhau i weld gwahaniaethu ar sail oedran yn y gweithle, o fewn gofal iechyd a gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus allweddol eraill, yn ogystal ag ar hyd a lled y cyfryngau a hysbysebu, sy’n effeithio’n negyddol ar iechyd a lles pobl hŷn mewn sawl ffordd.

“Ond er gwaethaf ei amlder, dywed 1 o bob 5 o bobl hŷn yng Nghymru na fyddent yn hyderus wrth ganfod nac wrth herio oedraniaeth. 

“Dyna pam fy mod yn cynnal cyfres newydd o sesiynau hyfforddi ar fynd i’r afael ag oedraniaeth ar gyfer pobl hŷn ledled Cymru  – i’w helpu nhw i adnabod oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran, a’u galluogi i’w herio.”

I gael rhagor o wybodaeth am y sesiynau hyfforddi, neu i archebu’ch lle, ewch i wefan y Comisiynydd – www.olderpeoplewales.com – neu ffoniwch swyddfa’r Comisiynydd ar 03442 640 670.


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges