Angen Help?
Smiling older Man Using Phone At Home

Cynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn yng Nghymru – Diweddariad o ran Cynnydd

i mewn Newyddion

Cynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn yng Nghymru – Diweddariad o ran Cynnydd

Mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi diweddariad ar y gwaith mae’n ei wneud i helpu i sicrhau bod pobl hŷn yng Nghymru yn cael y cymorth ariannol y mae ganddyn nhw hawl iddo, gan ddefnyddio canfyddiadau ei Huwchgynhadledd Credyd Pensiwn i ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer, a chefnogi galwadau am weithredu pellach.

Er bod Credyd Pensiwn yn darparu cymorth hanfodol i bobl hŷn ar incwm isel – ‘cynyddu’ incwm wythnosol person sengl i £201.05 (£386.85 i gyplau) a datgloi hawliau eraill fel gostyngiadau i’r dreth gyngor, a gofal deintyddol / llygaid am ddim – amcangyfrifir nad yw tua 80,000 o aelwydydd cymwys yng Nghymru yn cael y Credyd Pensiwn y mae ganddyn nhw hawl iddo. Mae hyn yn golygu bod dros £200 miliwn o Gredyd Pensiwn yn cael ei adael heb ei hawlio yn Nhrysorlys y DU bob blwyddyn, yn hytrach na chyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf.

Roedd dros 70 o gynrychiolwyr yn bresennol yng Nghynhadledd y Comisiynydd, ac roedd yn cynnwys cyfraniadau gan ddau unigolyn hŷn a rannodd eu profiadau o hawlio Credyd Pensiwn a’u safbwyntiau ar y ffordd orau o gefnogi pobl hŷn. Roedd y siaradwyr eraill yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Adran Gwaith a Phensiynau, Llywodraeth Cymru, Age Cymru a Chyngor RhCT, a siaradodd am y gwahanol ffyrdd yr oedden nhw’n targedu ac yn cefnogi pobl hŷn, yn lleol ac yn genedlaethol.

Fel y nodwyd yn y diweddariad, mae cynnydd wedi’i wneud yn erbyn yr holl gamau gweithredu sydd wedi’u nodi yn Adroddiad yr Uwchgynhadledd, ac mae’r Comisiynydd wedi bwrw ymlaen â nifer o gamau gweithredu ei hun, gan gynnwys:

  • Codi pryderon gyda Gweinidog dros Bensiynau Llywodraeth y DU am bobl hŷn ar incwm isel sy’n colli allan ar hawliau ehangach sy’n cael eu datgloi gan Gredyd Pensiwn.
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i archwilio sut gellid defnyddio ei hymgyrch ‘Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi’ i godi ymwybyddiaeth o Gredyd Pensiwn ac annog pobl i hawlio.
  • Gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i ganfod ffyrdd effeithiol i awdurdodau lleol gysylltu â phobl hŷn a allai fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn a’u cefnogi i hawlio’r hyn y mae ganddyn nhw hawl iddo.

Mae’r Comisiynydd hefyd eisiau i Lywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i archwilio sut gellid defnyddio data presennol i nodi pobl hŷn a allai fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn, a thargedu gwybodaeth ddefnyddiol i annog a chefnogi pobl hŷn i hawlio’r hyn y mae ganddyn nhw hawl iddo.

Yn ogystal â hyn, bydd y Comisiynydd yn parhau i ymgysylltu â phobl hŷn a’u teuluoedd ledled Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd sicrhau bod pobl hŷn yn cael y Credyd Pensiwn mae ganddyn nhw hawl iddo, a’r gwahaniaeth cadarnhaol mae hyn yn gallu ei wneud i fywydau pobl. Bydd hefyd yn cysylltu pobl hŷn â gwasanaethau a sefydliadau sy’n eu cefnogi i hawlio.

I weld a allech chi fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn, ewch i https://www.gov.uk/pension-credit neu ffoniwch 0800 99 1234.

Darllenwch ddiweddariad y Comisiynydd yma

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges