Angen Help?
Older woman looking upset and staring into the distance

Cynllun gweithredu i atal cam-drin pobl hŷn yn ‘gam pwysig ymlaen’, meddai’r Comisiynydd

i mewn Newyddion

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae cyhoeddi’r cynllun gweithredu cenedlaethol arfaethedig i atal cam-drin ac esgeuluso pobl hŷn yng Nghymru yn gam pwysig ymlaen. Mae’n adlewyrchu’r gydnabyddiaeth gynyddol o raddfa ac effaith cam-drin pobl hŷn a’r angen am weithredu ystyrlon i sicrhau, beth bynnag fo’u hoed, y gall pawb sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu sy’n cael eu cam-drin, gael gafael ar y gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

“Gyda’r 30 o sefydliadau yn fy Ngrŵp Gweithredu ar Gam-drin, rwyf wedi nodi’r meysydd lle mae angen newid a gwella ac rwy’n croesawu’r ffaith bod rhai o’r rhain yn cael eu hadlewyrchu yn y cynllun drafft.

“Mae’r cynllun drafft yn bwysig oherwydd mae’n cydnabod y cysylltiadau rhwng oedraniaeth a cham-drin pobl hŷn a’r ffyrdd y gall agweddau negyddol a thybiaethau ehangach am bobl hŷn alluogi cam-drin i ddigwydd a/neu beidio â chael ei ganfod.

“Er bod llawer yn y cynllun drafft rwy’n ei groesawu, rwy’n credu y gallai’r camau gweithredu arfaethedig fynd ymhellach, ac nid oes llawer o fanylion ar hyn o bryd o ran yr amserlenni ar gyfer cyflawni.

Byddaf yn darparu ymateb manwl i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, sydd ar agor tan 17 Hydref, a byddwn yn annog pobl hŷn sydd wedi cael eu cam-drin, neu sy’n adnabod rhywun sydd wedi cael ei gam-drin, i ymateb i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a bod modd defnyddio eu profiadau i helpu i sicrhau bod y camau a gymerir yn cael cymaint o effaith â phosibl.”

Ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges