Mae’r gaeaf yn aml yn arwain at nifer o heriau i bobl hŷn ac wrth i ni barhau i ymateb i bandemig Covid-19 a dyfodiad yr amrywiolyn Omicron, mae’r gaeaf hwn yn debygol o fod yn anoddach na’r rhan fwyaf.
Fel grŵp o sefydliadau sy’n gweithio ar ran pobl hŷn, rydym eisiau sicrhau bod anghenion pobl hŷn yn cael eu hystyried ac nad ydynt yn cael eu hanghofio wrth i benderfyniadau gael eu gwneud dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf i ymateb i’r pandemig.
Mae’r datganiad hwn yn amlinellu’r meysydd pryder hyn ledled y DU ac yn ceisio darparu atebion i alluogi llywodraethau cenedlaethol, datganoledig a lleol i gymryd y camau angenrheidiol i gefnogi pobl hŷn drwy’r gaeafau heriol hyn.
Prisiau Ynni a Thlodi Tanwydd
Mae miloedd lawer o bobl hŷn ledled y DU yn byw mewn tlodi tanwydd cyson. Er bod y Taliad Tanwydd Gaeaf, y Taliad Tywydd Oer a hawliadau eraill yn helpu i dalu am gostau ynni, mae’r cynnydd ym mhris nwy dros y misoedd diwethaf a’r goblygiadau cost i gwsmeriaid cwmnïau ynni sydd wedi mynd i’r wal, yn golygu bod llawer o bobl hŷn yn wynebu biliau tanwydd llawer uwch na’r arfer.
Mae dyfodiad yr amrywiolyn Omicron yn golygu bod llawer o’r gweithgareddau cymdeithasol y byddai pobl hŷn fel arfer yn eu mwynhau ar yr adeg hon o’r flwyddyn yn debygol o gael eu canslo a byddan nhw’n treulio mwy o amser gartref, a fydd yn golygu bod angen cynhesu eu cartrefi am gyfnodau hirach. Heb ragor o gefnogaeth, bydd iechyd a llesiant llawer o bobl hŷn yn dirywio a bydd hyn yn arwain at alw pellach am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Dylai llywodraethau cenedlaethol a datganoledig gynyddu lefel y cymorth ariannol sydd ar gael i bobl hŷn, yn enwedig y rheini sy’n byw ar yr incwm isaf, er mwyn sicrhau bod cadw eich cartref yn ddiogel ac yn gynnes yn fwy fforddiadwy. Ofnir y bydd llawer o bobl hŷn yn dewis defnyddio llai o wres neu aberthu mewn rhannau eraill o’u bywydau, megis bwyta llai o fwyd, er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd.
Mynediad at Fwyd
Ar ddechrau pandemig Covid-19, roedd pobl hŷn yn cael blaenoriaeth i slotiau danfon bwyd a daeth cymunedau ledled y DU at ei gilydd i helpu ffrindiau a chymdogion i gael gafael ar fwyd a meddyginiaethau. Mae llawer o’r mecanweithiau cymorth hyn wedi diflannu wrth i sefyllfa’r pandemig wella, ond mae’r risgiau a achosir gan yr amrywiolyn Omicron yn golygu y gallai llawer o bobl hŷn deimlo’n anghyfforddus wrth fynd i archfarchnadoedd neu ddefnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus prysur.
Mae dyletswydd ar bob un ohonom i ofalu am ffrindiau, cymdogion a pherthnasau hŷn i sicrhau bod ganddynt y bwyd a’r meddyginiaethau y mae eu hangen arnynt i aros yn iach dros y gaeaf, a dylai llywodraethau ar bob lefel fod yn galw ar gymunedau ledled y DU i gamu i fyny a chefnogi’r rheini sydd mewn angen.
Os bydd slotiau danfon archfarchnadoedd neu gyflenwadau bwyd yn mynd yn brin eto, dylai llywodraethau ystyried dychwelyd at drefniadau gydag archfarchnadoedd i sicrhau bod pobl hŷn, a grwpiau agored i niwed eraill, yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer slotiau danfon a mynediad i siopau ar adegau penodol.
Hawliadau Ariannol
Un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o gefnogi’r bobl hŷn sydd fwyaf agored i niwed yn ariannol dros y gaeaf fyddai buddsoddi mewn ymgyrchoedd i gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar Gredyd Pensiwn. Ar hyn o bryd dim ond 60% o’r rheini sy’n gymwys sy’n ei hawlio. Rhaid i hyn gyd-fynd ag ymrwymiadau i edrych ar gamau pellach y gellir eu cymryd yn y tymor hirach i ddeall pam mae’r niferoedd sy’n ei hawlio’n dal mor isel ac archwilio cyflwyno cofrestru awtomatig.
Mae ymgyrch ‘Make the Call’ Gogledd Iwerddon wedi llwyddo i gynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn a hawliau ariannol eraill, a dylai llywodraethau eraill edrych ar sut gellid rhoi cynlluniau tebyg ar waith ledled y DU. Er mwyn gwneud gwahaniaeth ar unwaith, byddai angen i’r ymgyrchoedd hyn gael eu cyflwyno’n gyflym a byddai ceisiadau’n cael eu rhoi ar lwybr carlam i roi arian yn uniongyrchol ym mhocedi rhai o’r bobl hŷn mwyaf agored i niwed ar hyd a lled y DU.
Mynd i’r afael ag Unigrwydd a bod Wedi’ch Ynysu
Mae’r gaeaf yn aml gallu arwain at unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol i nifer o bobl hyn, yn enwedig y rheini sy’n byw ar eu pen eu hunain neu heb deulu wrth law. Mae cymorth a chefnogaeth ar gael i bobl sy’n teimlo’n unig ac yn ynysig, fel llinellau cymorth cyfeillio. Dylai llywodraethau ystyried buddsoddi i sicrhau bod y gwasanaethau hyn ar gael yn ehangach a hyrwyddo eu bodolaeth i bobl hŷn drwy hysbysebu a defnyddio eu cyfleoedd i siarad yn uniongyrchol â’r cyhoedd er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth hon.
Bydd hwn hefyd yn gyfnod heriol a phryderus i bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, a’u hanwyliaid, a fydd yn poeni a fydd ymwelwyr yn cael parhau i fynd i gartrefi gofal ac a fydd preswylwyr yn cael cymorth i adael ar gyfer ymweliadau. Dylai llywodraethau sicrhau y gall ymweliadau diogel barhau ac na fydd gwaharddiadau cyffredinol ar ymweld ac ymweliadau yn cael eu rhoi ar waith mewn cartrefi gofal.
Mynediad at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Bydd yr ymgyrch atgyfnerthu brechlyn Covid-19 a’r cynnydd parhaus yn nifer yr achosion Covid-19 yn rhoi mwy a mwy o bwysau ar ein gwasanaethau iechyd a gofal. Mae cyhoeddiadau eisoes wedi cael eu gwneud y bydd triniaethau wedi’u cynllunio a thriniaethau rheolaidd yn cael eu gohirio. Mae hi’n hanfodol bod gwasanaethau’n dal i fyny â’r rhain cyn gynted â phosibl er mwyn lleihau’r effaith ar iechyd a llesiant pobl hŷn a bod rhagor yn cael ei wneud i gefnogi pobl hŷn wrth iddynt ddisgwyl am lawdriniaeth.
Bydd angen i lawer o bobl hŷn hefyd barhau i gael gafael ar gymorth gofal cymdeithasol, yn y gymuned ac mewn gofal preswyl, gan gynnwys pobl hŷn sy’n barod i adael yr ysbyty a dychwelyd adref. Rydym yn deall y pwysau sy’n wynebu’r gweithlu gofal cymdeithasol ar hyn o bryd ac mae’n hanfodol bod llywodraethau’n defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael i gadw ac i recriwtio staff i’r sector.
Mae modd lleddfu pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol a gwirfoddol lleol sy’n cefnogi iechyd corfforol a meddyliol pobl hŷn, gan eu hatal rhag gorfod cael ymyriadau iechyd a gofal mwy costus. Dylai llywodraethau ac awdurdodau iechyd geisio buddsoddi yn y gwasanaethau hyn i helpu pobl hŷn i aros yn ddiogel ac yn iach gartref.
Heléna Herklots: Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Caroline Abrahams: Cyfarwyddwr Elusennol, Age UK
Deborah Alsina: Prif Weithredwr, Independent Age
Victoria Lloyd: Prif Weithredwr, Age Cymru
Eddie Lynch: Comisiynydd Pobl Hŷn Gogledd Iwerddon
Donald Macaskill: Prif Weithredwr, Scottish Care
Linda Robinson: Prif Weithredwr, Age Northern Ireland
Brian Sloan: Prif Weithredwr, Age Scotland