Cyllideb: Y comisiynydd yn galw ar Lywodraeth y DU i barhau i ddarparu cymorth ariannol hanfodol i helpu gyda biliau ynni
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae’r newyddion bod Llywodraeth y DU yn rhewi uchafswm costau ynni aelwyd nodweddiadol ar £2,500, yn hytrach na chaniatáu i filiau gynyddu i £3,000 o fis Ebrill – cynnydd o 20% – yn cael ei groesawu.
“Fodd bynnag, bydd llawer o bobl hŷn yn dal i boeni’n fawr am eu biliau ynni, oherwydd y bwriad i roi’r gorau i’r Cynllun Cymorth Biliau Ynni, a oedd yn darparu £400 i bob aelwyd.
“Mae’r taliadau cyffredinol hyn wedi darparu cymorth hanfodol i bobl hŷn ar incwm isel nad ydynt yn gymwys i gael cymorth ariannol wedi’i dargedu – oherwydd nad ydynt yn gymwys i gael Credyd Pensiwn, er enghraifft – ond sydd wedi gweld eu biliau ynni’n dyblu yn ystod y 18 mis diwethaf.
“Bydd cael gwared ar y cymorth hwn yn sbarduno hyd yn oed mwy o bobl hŷn i dlodi tanwydd, ac yn gorfodi llawer o bobl i dorri’n ôl hyd yn oed ymhellach ar hanfodion mewn ymdrech i arbed arian, rhywbeth sy’n rhoi eu hiechyd mewn perygl sylweddol.
“Felly, rwy’n galw ar Lywodraeth y DU i wneud darpariaeth yn ei chyllideb i alluogi cymorth cyffredinol ar gyfer costau ynni i barhau, ochr yn ochr â chymorth ychwanegol i’r rheini sydd fwyaf agored i niwed.”