Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Kelly Davies:
“Rydyn ni’n croesawu’r cyhoeddiad mai Heléna Herklots fydd Comisiynydd Pobl Hŷn nesaf Cymru.
“Ar ôl treulio ei gyrfa’n gweithio’n ddiflino i wella bywydau pobl hŷn a gofalwyr ledled y DU, mae Heléna yn cynnig cyfoeth o brofiad a gwybodaeth, a hefyd persbectif newydd ar sut gellir ac y dylid rhoi sylw i faterion sy’n effeithio ar fywydau pobl hŷn yng Nghymru.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Heléna i barhau i sbarduno newid i bobl hŷn ledled Cymru, i sicrhau eu bod yn gallu byw bywydau iach, hapus ac annibynnol a gwneud defnydd o’r gwasanaethau a’r gefnogaeth y mae arnyn nhw eu hangen wrth dyfu’n hŷn.
“Hefyd fe hoffwn i ddiolch i Sarah am bopeth mae hi wedi’i wneud ar ran pobl hŷn fel Comisiynydd yn ystod y chwe blynedd diwethaf, i newid polisïau ac arferion, sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn atebol, a sicrhau bod y cyfraniad enfawr mae pobl hŷn yn ei wneud at ein bywydau ni mewn cymaint o ffyrdd yn cael ei gydnabod.
“Mae gwaith caled Sarah wedi gwneud byd o wahaniaeth i fywydau pobl hŷn ledled Cymru a dymunwn y gorau iddi ar gyfer y dyfodol.”