Mae pobl hŷn yng Nghymru mewn perygl o fynd yn anweledig i wneuthurwyr penderfyniadau a pholisi oherwydd diffyg gwybodaeth a data ystyrlon mewn mannau hollbwysig am eu profiadau o fynd yn hŷn.
Dyna rybudd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wrth iddi gyhoeddi ei hadroddiad cyntaf ar Gyflwr y Genedl, a gyhoeddwyd heddiw (1 Hydref), sef diwrnod rhyngwladol pobl hŷn.
Mae’r adroddiad yn dod ag ystod eang o dystiolaeth ac ymchwil ynghyd am y tro cyntaf, yn ogystal â’r data sydd yn aml wedi’i gyfyngu sydd ar gael ar hyn o bryd, i roi trosolwg o brofiadau pobl o fynd yn hŷn yng Nghymru.
Yn ogystal â thynnu sylw at y bylchau difrifol yn y data a gesglir am bobl hŷn, mae’r adroddiad yn nodi lle mae angen newid a’r camau angenrheidiol i wella bywydau pobl hŷn a gwneud Cymru y lle gorau yn y byd i heneiddio.
Wrth drafod yr adroddiad, dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae fy adroddiad ar Gyflwr y Genedl yn dod ag ystod eang o dystiolaeth ynghyd am fywydau a phrofiadau pobl hŷn, ac yn nodi’r newidiadau sydd eu hangen a’r camau y gellir eu cymryd nawr i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.
“Er bod yr adroddiad yn dangos bod gennym sylfeini cryf i adeiladu arnynt – gyda nifer o bobl hŷn yn teimlo bod ganddynt reolaeth dros eu bywydau ac yn gallu gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw – mae’r canfyddiadau hefyd yn dangos yr anghydraddoldebau difrifol sy’n bodoli yn y boblogaeth hŷn yng Nghymru.
“Rydym yn gweld cynnydd mewn tlodi ymysg pobl hŷn, er enghraifft, ochr yn ochr â’r gwahaniaethau sylweddol mewn iechyd a disgwyliad oes pobl rhwng yr ardaloedd lleiaf a’r mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Rydym hefyd yn gwybod nad yw nifer sylweddol o bobl hŷn yn gwybod beth yw eu hawliau ac nid ydynt yn gallu manteisio ar y gwasanaethau maen nhw eu hangen i’w helpu i heneiddio’n dda.
“Yn ychwanegol at hyn, mae’r adroddiad hefyd wedi datgelu bylchau difrifol sy’n peri gofid yn y data a gesglir sy’n ymwneud â phobl hŷn, yn enwedig mewn cysylltiad â cham-drin. Gall hyn arwain at dybiaethau nad yw’r mater yn effeithio ar bobl hŷn, er gwaethaf y ffaith bod y gwrthwyneb yn wir.
“Felly, mae pobl hŷn yng Nghymru mewn perygl o fynd yn anweledig i wneuthurwyr penderfyniadau a pholisi oherwydd nad ydynt yn gallu deall yn iawn beth yw anghenion pobl hŷn a phenderfynu lle mae angen targedu adnoddau a gwasanaethau.
“Mae hyn yn golygu efallai na fydd digon o gynnydd yn erbyn nifer o feysydd blaenoriaeth rwyf wedi’u nodi fel rhai sy’n hanfodol i drawsnewid y profiad o fynd yn hŷn yng Nghymru – rhoi diwedd ar oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran, atal cam-drin pobl hŷn, a galluogi pawb i heneiddio’n dda.”
Mae’r Comisiynydd yn galw ar gyrff cyhoeddus, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan i weithio gyda’i gilydd a sicrhau bod Cymru’n arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn yr adroddiad a sicrhau newid gyda phobl hŷn.
I gefnogi hyn, mae’r Comisiynydd yn dod â phobl hŷn at ei gilydd â phanel trawsbleidiol o wleidyddion, gan gynnwys y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AC, a rhanddeiliaid sy’n gweithio ar draws y sector cyhoeddus mewn digwyddiad yn y Senedd, a fydd yn edrych ar y ffyrdd mwyaf effeithiol o fwrw ymlaen â galwadau’r Comisiynydd am weithredu a chyflawni’r newidiadau angenrheidiol i bolisi ac ymarfer.
Ychwanegodd y Comisiynydd:
“Mae mynd i’r afael â llawer o’r materion a nodwyd yn fy adroddiad ar Gyflwr y Genedl o fewn ein gallu ni drwy weithio gyda’n gilydd, ac mae gan Gymru’r cyfle i arwain y ffordd. Mae gan bawb ran i’w chwarae i sicrhau newid, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio gydag eraill i sicrhau y gweithredir i gyflawni’r newid angenrheidiol.
“Rydym wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol – os nad ydym yn gweithredu nawr, mae perygl y bydd llawer o bobl hŷn, nawr ac yn y dyfodol, yn wynebu ansawdd bywyd sy’n dirywio.
“Ond drwy gymryd y camau priodol, gallwn barhau i wneud cynnydd a gwella bywydau pobl hŷn ledled y wlad, â’r nod o wneud Cymru y lle gorau yn y byd i heneiddio.”
Cliciwch yma i lawrlwytho adroddiad Cyflwr y Genedl