Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi rhybuddio bod cynnydd gyda’r gwaith o fynd i’r afael â materion allweddol sy’n effeithio ar fywydau pobl hŷn yn y fantol oherwydd pandemig Covid-19, ac y bydd iechyd, annibyniaeth ac ansawdd bywyd pobl hŷn yn dioddef heb weithredu ar draws cymdeithas.
Daw’r rhybudd gan y Comisiynydd wrth iddi gyhoeddi ei hadroddiad diweddaraf ar Gyflwr y Genedl, sy’n dwyn ynghyd amrywiaeth eang o ddata, tystiolaeth ac ymchwil i roi trosolwg manwl o brofiadau pobl o heneiddio yng Nghymru ac i asesu sut mae pethau wedi newid ers cyhoeddi ei Hadroddiad Cyflwr y Genedl diwethaf ym mis Hydref 2019.
Mae’r adroddiad wedi canfod bod iechyd corfforol a meddyliol pobl hŷn wedi dirywio’n sylweddol oherwydd y pandemig, a bod cael gafael ar wasanaethau yn y gymuned – yn enwedig gwasanaethau iechyd a gofal – wedi bod yn arbennig o anodd i bobl hŷn yn ystod y 18 mis diwethaf.
Hefyd, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y perygl y bydd pobl hŷn yn cael eu heithrio wrth i ni droi at wasanaethau digidol, y newid mewn arferion gweithio a’r ffaith bod llai o gyfleoedd i ymgysylltu a gwirfoddoli ar gael.
Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys nifer o ystadegau sy’n peri pryder ac yn tynnu sylw at yr angen am weithredu mewn nifer o feysydd allweddol:
- Dim ond 59% o bobl hŷn oedd yn teimlo fel aelod gwerthfawr o gymdeithas ers dechrau’r pandemig
- Mae 91,000 o bobl hŷn yng Nghymru wastad yn unig, ac mae 75% o bobl hŷn bellach yn dweud eu bod yn teimlo’n unig o dro i dro (i fyny o 49% yn 2019)
- Dim ond 23% o bobl hŷn oedd yn ei chael yn hawdd cael gafael ar wasanaethau iechyd ar-lein
- Mae 80% o ofalwyr di-dâl nawr yn darparu mwy o ofal na chyn i’r pandemig ddechrau
- Dim ond 35% o’r cyflogwyr a holwyd fyddai’n fodlon llogi a chynnig hyfforddiant i rywun dros 55 oed mewn diwydiant newydd
- 64% o bobl hŷn wedi reportio ymdrechion yn ceisio eu twyllo’n ariannol neu i roi gwybodaeth bersonol
Meddai Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: Mae’n amlwg o’r dystiolaeth yn fy adroddiad bod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd a heriol i lawer o bobl hŷn.
“Mae’r pandemig wedi effeithio ar iechyd a lles pobl hŷn, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, yn ogystal â chyfyngu’n ddifrifol ar allu pobl i gael gafael ar wasanaethau, treulio amser gyda ffrindiau ac anwyliaid a gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.
Er bod fy adroddiad yn 2019 wedi canfod bod gan Gymru sylfeini da i adeiladu arnynt, yn anffodus mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi golygu fod rhai agweddau ar fywydau pobl hŷn wedi dirywio ac wedi creu problemau a heriau newydd.
“Nid yw hyn yn golygu na ellir gwrthdroi’r dirywiad hwn neu na ellir goresgyn yr heriau hyn, ond heb weithredu ar draws cymdeithas, mae iechyd, lles ac ansawdd bywyd pobl hŷn mewn perygl sylweddol.
Ochr yn ochr â’i hadroddiad ar Gyflwr y Genedl, mae’r Comisiynydd hefyd wedi cyhoeddi ‘Hanes y Gaeaf’, sy’n rhoi golwg fanwl ar brofiadau byw 21 o bobl hŷn o bob rhan o Gymru yn ystod Gaeaf 2020.
Mae’r adroddiad, sy’n cynnwys dyfyniadau helaeth gan y bobl hŷn a rannodd eu profiadau, yn rhoi cipolwg ar yr ystod o faterion a wynebwyd ac yn tynnu sylw at y strategaethau a fabwysiadwyd ganddynt i’w helpu drwy aeaf anodd.
Ychwanegodd y Comisiynydd: “Yr hyn sy’n dod yn amlwg iawn yn fy adroddiadau ar Gyflwr y Genedl a Straeon y Gaeaf yw bod pobl hŷn, er gwaethaf yr heriau sylweddol sy’n cael eu creu gan y pandemig, wedi dangos gwytnwch a phenderfyniad mawr, a’u bod ar y cyfan yn obeithiol am y dyfodol.
“Dyna pam mae’n hanfodol bod y camau rwy’n galw amdanynt yn cael eu cyflawni – nid yn unig er mwyn sicrhau bod y cymorth ymarferol y bydd ei angen ar bobl hŷn wrth i ni wella ar ôl y pandemig yn cael ei roi ar waith, ond hefyd er mwyn creu dyfodol gwell lle caiff pobl hŷn eu gwerthfawrogi, lle caiff hawliau eu cynnal a lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.”
Lawrlwytho Cyflwr y Genedl 2021