Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE, eisiau clywed gan bobl hŷn ledled Cymru ynghylch sut i wneud Cymru’r lle gorau yn y byd i fynd yn hŷn.
Defnyddir y safbwyntiau a’r syniadau y bydd pobl hŷn yn eu rhannu i gynorthwyo’r gwaith o ddatblygu rhaglen waith y Comisiynydd, a fydd yn cael ei chyhoeddi ym mis Ebrill.
Bydd y rhaglen waith yn cyflawni tair blaenoriaeth hirdymor allweddol i Gymru – gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu heneiddio’n dda, rhoi diwedd ar oedraniaeth a gwahaniaethu, a rhoi terfyn ar gam-drin pobl hŷn – blaenoriaethau y mae’r Comisiynydd wedi eu nodi yn dilyn ymgysylltiad helaeth â phobl hŷn a rhanddeiliaid ers iddi ddechrau yn ei swydd ym mis Awst y llynedd.
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae llawer o bobl hŷn yng Nghymru yn mwynhau ansawdd bywyd da ac rwyf wedi ymweld â llawer o brosiectau a gwasanaethau sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau.
“Fodd bynnag, mae llawer iawn o waith i’w wneud o hyd i sicrhau bod pob unigolyn hŷn yn gwybod beth yw eu hawliau a bod eu hawliau’n cael eu cadarnhau, eu bod yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth yn ei holl ffurfiau, yn cael eu cefnogi i heneiddio’n dda, a bod yr oedraniaeth a’r gwahaniaethu sy’n sail i lawer o’r materion maent yn eu hwynebu yn dod i ben.
“Gan hynny, bydd fy ngwaith fel Comisiynydd dros y tair blynedd nesaf yn cael ei gyflawni gan ystyried y blaenoriaethau allweddol hyn, ac rwyf eisiau i leisiau, profiadau a syniadau pobl hŷn, a’r rhai sy’n gweithio a gwirfoddoli gyda phobl hŷn, lywio fy ngwaith.”
Mae’r Comisiynydd yn arbennig o awyddus i ganolbwyntio ar waith a fydd yn gwella ansawdd bywyd y bobl hŷn mwyaf agored i niwed, y rhai y mae eu lleisiau’n cael eu hanwybyddu’n aml a’r rhai sydd mewn perygl o niwed, a byddant hefyd yn defnyddio ei gwaith i dynnu sylw at y cyfraniad sylweddol y mae pobl hŷn yn ei wneud at eu cymunedau a’r gymdeithas.
Ychwanegodd y Comisiynydd: “Mae gan bobl hŷn lawer iawn o wybodaeth a phrofiad, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed ganddynt, yn ogystal â’r rhai sy’n gweithio gyda hwy ac ar eu cyfer, am y newidiadau sydd eu hangen a sut gellir cyflawni’r rhain i wneud Cymru y lle gorau yn y byd i fynd yn hŷn.”
Gallwch ymateb i ymgynghoriad y Comisiynydd drwy fynd i wefan y Comisiynydd, neu ffonio 03442 640 670 i gael copi caled. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw dydd Gwener 22 Chwefror 2019.
DIWEDD