Hoffem eich gwahodd i ymuno â chyfarfod agored Grŵp Gweithredu ar Gam-drin y Comisiynydd ym mis Rhagfyr. Cewch gyfle i ddysgu mwy am waith y grŵp i ddiogelu pobl hŷn yng Nghymru rhag camdriniaeth, yn ogystal â thrafod blaenoriaethau’r grŵp wrth i ni edrych ymlaen at 2022.
Mae atal cam-drin pobl hŷn wedi parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i’r Comisiynydd trwy gydol y pandemig. Ym mis Ebrill 2020 sefydlodd y Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin mewn ymateb i bryderon am effaith y cyfyngiadau symud ar bobl hŷn sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, neu sydd mewn perygl o gael eu cam-drin gan sgamwyr a throseddwyr.
Trwy gydol y pandemig, mae’r Grŵp Gweithredu – sy’n cynnwys aelodau o dros 30 o sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl hŷn, ac ar eu rhan – wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael y wybodaeth a’r gefnogaeth sydd arnyn nhw’u hangen i’w cadw’n ddiogel a’u hamddiffyn rhag camdriniaeth a throseddu. Mae’r Comisiynydd yn gweithio gyda’r grŵp i fwrw ymlaen ag amrywiaeth o gamau i amddiffyn pobl hŷn rhag cael eu cam-drin, sydd wedi’u hamlinellu yn Strategaeth y Grŵp Gweithredu – mae ar gael i’w darllen yma.
Bydd y cyfarfod yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf gan y canlynol:
- Helána Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru – gwaith ymchwil wedi’i gynllunio a gwaith ehangach i fynd i’r afael â cham-drin
- Lynda Wallis, Cadeirydd Senedd Pobl Hŷn Cymru – Gweithio gyda Grŵp Llywio’r Comisiynydd
- Diweddariad ar ‘Gynllun Cenedlaethol i Atal Cam-drin Pobl Hŷn’ Llywodraeth Cymru
- Diweddariadau ychwanegol gan aelodau, gan gynnwys Age Cymru, Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain, Erosh, RCN Cymru a Heddlu De Cymru
Os hoffech chi ddod i’r cyfarfod, a fydd yn cael ei gynnal ar-lein ar Zoom, cofrestrwch yma: https://tocyn.cymru/event/318b4d02-c215-4020-ab02-2e9e9760a03a/s (Bydd y ddolen i’r cyfarfod yn cael ei rhannu â chi ar ôl cofrestru).
Gobeithio y gallwch ymuno â ni ym mis Rhagfyr!