Angen Help?
A gloved person holding a mug of coffee

Comisiynydd yn galw am ragor o gamau gan y llywodraeth i atal pobl hŷn rhag cael eu derbyn i’r ysbyty’n ddiangen ac atal marwolaethau y mae modd eu hosgoi y gaeaf hwn

i mewn Newyddion

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi galw am gamau pellach gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynorthwyo pobl hŷn a diogelu eu hiechyd a’u llesiant wrth i ni wynebu gaeaf anodd iawn arall oherwydd yr argyfwng costau byw.

Wrth Darllenwch bapur briffio’r Comisiynydd, mae’r Comisiynydd wedi rhybuddio, heb ragor o gymorth i ddiogelu iechyd a llesiant pobl hŷn, y byddwn yn gweld mwy o angen am ofal a chymorth, derbyniadau diangen i’r ysbyty ac, mewn rhai achosion, marwolaethau y gellir eu hatal.

Mae’r Comisiynydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i fynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach tlodi, ehangu rhaglenni i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi pobl hŷn, sicrhau bod pobl hŷn yn hawlio’r holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo, a chael gwared â rhwystrau rhag cael gafael ar gymorth ehangach fel y Gronfa Cymorth Dewisol.

Mae’r Comisiynydd hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i grwpiau cymunedol ac elusennau i ddarparu cymorth i bobl hŷn, yn eu cartrefi eu hunain ac mewn lleoliadau cymunedol, i wneud yn siŵr nad ydynt yn colli allan ar fwyd maethlon a chyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol, ac mae wedi nodi nifer o ffyrdd y dylai awdurdodau lleol gefnogi gweithredu cymunedol ehangach, yn enwedig drwy ganfod a chyrraedd pobl hŷn a allai fod angen cymorth.

Yn ogystal, mae’r comisiynydd wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gymryd camau i ddarparu newid strwythurol tymor hwy er mwyn sicrhau bod Pensiwn y Wladwriaeth a hawliau ariannol eraill yn cyd-fynd â chostau cynyddol a chwyddiant ac yn darparu lefel ddigonol o incwm ar gyfer pobl hŷn y mae’n rhaid ei ddarparu ar lefel y Deyrnas Unedig.

Mae hyn yn cynnwys galw am ymrwymiad i ddarparu ‘clo triphlyg’ Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer 2023-24 a thu hwnt, cyflwyno ‘awto-gofrestru’ o fewn y system Credyd Pensiwn, ac adolygu ac uwchraddio’r Taliad Tanwydd Gaeaf, gan gydnabod y gostyngiad yn ei werth termau real ers iddo gael ei gyflwyno.

Mae’r Comisiynydd hefyd wedi galw am adolygiad cynhwysfawr o lefel Pensiwn y Wladwriaeth i sicrhau ei fod yn darparu’r incwm sydd ei angen ar bobl hŷn.

Ochr yn ochr â galw am weithredu pellach, mae’r Comisiynydd yn parhau i amlygu a hyrwyddo’r cymorth ariannol sydd ar gael i bobl hŷn, gan fod llawer yn dal i golli allan ar arian a allai wneud gwahaniaeth sylweddol, fel Credyd Pensiwn, sy’n werth £58 yr wythnos ar gyfartaledd i’r rhai sy’n hawlio.

Bydd y Comisiynydd hefyd yn parhau i ymgysylltu â phobl hŷn i glywed yn uniongyrchol ganddynt am eu profiadau i wneud yn siŵr bod eu lleisiau’n cael eu clywed a bod llunwyr polisïau a phenderfyniadau’n deall realiti byw drwy’r argyfwng costau byw fel unigolyn hŷn.

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith sylweddol ledled cymdeithas, ac mae pobl hŷn yn cael eu heffeithio’n arbennig o ddrwg, a dyna pam ei bod yn hanfodol bod pobl hŷn yn cael yr holl gymorth ariannol mae ganddynt hawl i’w gael.

“Mae’r cymorth sydd wedi cael ei gyhoeddi ar lefel Cymru a’r Deyrnas Unedig i’w groesawu, ond o gofio bod disgwyl i’r cynnydd ym mhrisiau ynni ym mis Hydref a’r flwyddyn newydd fod yn llawer uwch na’r disgwyl, gydag awgrymiadau y gallai hyd at 40% o aelwydydd fynd i dlodi tanwydd yn yr hydref, mae angen cymryd camau pellach i gefnogi pobl hŷn yn y misoedd i ddod.

“Heb y camau hyn, bydd iechyd a llesiant miloedd o bobl hŷn ledled Cymru mewn perygl sylweddol oherwydd salwch neu gyflyrau corfforol a achosir gan dai oer a/neu faeth gwael, neu’r straen a’r pryder a achosir gan boeni am eu harian.

“Bydd hyn yn arwain at fwy o bobl hŷn angen gofal a chymorth, derbyniadau diangen i’r ysbyty ac, mewn rhai achosion, marwolaethau y gellir eu hatal.

“Dyna pam ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyflawni’r camau rwy’n galw amdanynt i sicrhau bod pobl hŷn yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt wrth i ni wynebu gaeaf anodd iawn arall.”

DIWEDD

Darllenwch bapur briffio'r Comisiynydd

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges