Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Wrth i’r llywodraeth newid ei dull o’r cam ‘cyfyngu’ i’r cam ‘oedi’ er mwyn ceisio rheoli’r coronafeirws, mae’n hollbwysig ein bod yn cymryd camau priodol i atal y feirws rhag lledaenu ac i gadw’n gilydd yn ddiogel.
“Mae hyn yn golygu dilyn cyngor y llywodraeth ac arbenigwyr ar iechyd y cyhoedd, yn ogystal â chymryd camau sy’n lleihau’r tebygolrwydd o ddal neu ledaenu’r feirws, fel golchi dwylo’n rheolaidd neu gyfyngu ar gyswllt corfforol fel ysgwyd llaw ac ati.
“Mae dilyn y cyngor hwn a chymryd y camau hyn yn bwysig i bobl hŷn yn enwedig. Mae’n bosib y bydd angen iddynt wneud penderfyniadau anodd ynglŷn ag ymneilltuo – gallant deimlo bod hynny’n angenrheidiol er mwyn eu diogelu eu hunain.
“Felly, mae’n hollbwysig bod pobl hŷn yn ystyried pa gymorth a allai fod ei angen arnyn nhw, a bod teulu, ffrindiau a chymunedau yn nodi sut gallan nhw ddarparu’r cymorth hwn i berson hŷn yn y sefyllfa hon, fel gwneud trefniadau i sicrhau bod bwyd a meddyginiaeth ar gael. Gallwn ni i gyd chwarae ein rhan er mwyn sicrhau bod pobl hŷn yn cadw mewn cysylltiad, naill ai dros y ffôn, drwy Skype neu Facetime; gallai hyn olygu helpu rhai pobl hŷn i ddefnyddio’r math hwn o dechnoleg am y tro cyntaf.
“Rydw i’n ymwybodol bod hwn yn gyfnod llawn pryder i lawer o bobl hŷn, ac fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, byddaf yn parhau i gysylltu â Llywodraeth Cymru yn gyson er mwyn helpu i sicrhau bod yr holl wybodaeth a’r cyngor diweddaraf yn cael ei gyfleu’n effeithiol a bod yr holl gamau gweithredu posib yn cael eu cymryd i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar ofal iechyd a mathau eraill o gymorth pe bai ei angen arnynt.
“Mae llawer o fy ngwaith i a gwaith fy nhîm yn cynnwys cwrdd â phobl hŷn ac ymgysylltu â phobl hŷn ledled Cymru, ond bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu canslo wrth i ni barhau i fonitro’r sefyllfa.
“Dylai unrhyw berson hŷn sy’n poeni bod ganddyn nhw’r symptomau hunanynysu am 7 diwrnod. Os yw’r symptomau’n gwaethygu neu os nad ydych chi’n teimlo’n well ar ôl 7 diwrnod, dylech chi ffonio 111 neu 0845 46 47. Peidiwch â mynd i feddygfa neu i’r ysbyty, yn lle hynny trowch at wiriwr symptomau ar-lein Galw Iechyd Cymru.”
Diweddaru: 16 Mawrth 2020